Ar ôl colli i Juan Martin Del Potro yn y bedwaredd rownd yng nghystadleuaeth yr US Open, fe ddaeth gyrfa arbennig Andy Roddick i ben.
Fe wnaeth Roddick chwarae ei gem olaf yn Stadiwm Arthur Ashe, lle wnaeth llwyddo i gipio ei brif deitl yn 2003.
Wrth egluro ei benderfyniad i ymddeol, dywedodd bod yr agwedd gorfforol o’i gêm ddim yr un peth pan wnaeth gyrraedd y rowndiau terfynol yn y pum Gamp Lawn, gan golli i Roger Federer yn y rowndiau terfynol yn Wimbledon yn 2004, 2005 a 2009.
Yn 2003, fe wnaeth Andy Roddick gipio’r US Open ac fe ddaeth yn rhif 1 y byd.
Yn ystod ei yrfa fe gipiodd 32 o deitlau, gan gyrraedd 52 ffeinal, ac ennill 612 gêm allan o 825.