Maswr Cymru Rhys Priestland
Mae hyfforddwr Cymru Rob Howley wedi cadw gyda’r un tîm a ddaeth o fewn trwch blewyn i guro Awstralia ddydd Sadwrn diwethaf.
Mae Awstralia eisoes wedi ennill y gyfres ond mae Cymru am guro’r Walabîs yn Awstralia am y tro cyntaf ers 1969.
Yr unig newid yn 22 Cymru yw bod bachwr y Sgarlets, Ken Owens, yn dod i’r fainc yn lle Richard Hibbard.
Mae cefnwr dawnus Awstralia, Kurtley Beale, wedi ei ddewis yn nhîm y Walabîs ac yn cwrdd â Chymru am y tro cyntaf yn ystod y gyfres yma.
Mae’r gêm am 6 fore Sadwrn, amser Cymru.
Cymru
Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Ashley Beck, George North, Rhys Priestland, Mike Phillips, Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones, Bradley Davies:, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Ryan Jones.
Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Luke Charteris, Justin Tipuric, Rhys Webb, James Hook, Scott Williams.
Awstralia
Kurtley Beale, Adam Ashley-Cooper, Rob Horne, Pat McCabe, Digby Ioane, Berrick Barnes, Will Genia, Benn Robinson, Tatafu Polota Nau, Sekope Kepu, Sitaleki Timani, Nathan Sharpe, Scott Higginbotham, David Pocock (capten), Wycliff Palu.
Eilyddion: Stephen Moore, Ben Alexander, Rob Simmons, Dave Dennis, Michael Hooper, Nic White, Anthony Fainga’a.