Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Bosnia, bydd y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Bosnia fis Awst yn cael ei chynnal ym Mharc y Sgarlets, Llanelli.

Bydd y gêm, sydd wedi ei threfnu ar gyfer 15 Awst, yn gyfle olaf i dîm hyfforddi Chris Coleman gael golwg ar y garfan cyn dechrau’r ymgyrch i fynd drwodd i Gwpan Y Byd 2014.

Mae cyhoeddiad eisoes wedi ei wneud gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud y bydd gêm gyntaf Cymru o’r ymgyrch yn erbyn Gwlad Belg ar 7 Medi yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae ym Mharc y Sgarlets, cartref parhaol i dîm rygbi’r Sgarlets, ers trechu Lwcsembwrg yno o 5 gôl i 0 ym mis Medi 2010.

Yng ngêm gyntaf Cymru yno, roedd cic o’r smotyn gan Robert Earnshaw yn ddigon i selio buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Estonia.

Bydd y gêm yn erbyn Bosnia hefyd yn gyfle i Chris Coleman sicrhau ei fuddugoliaeth gyntaf fel rheolwr Cymru ar ôl iddo golli ei ddwy gêm gyntaf yn erbyn Costa Rica a Mecsico.