Mae’r ymosodwr Lewis Codling wedi gadael Aberystwyth i ymuno â’r Bala.

Symudodd i Aberystwyth ym mis Awst 2010 ar ôl gadael Everton wedi rhai blynyddoedd ym Mharc Goodison.

Ar ôl i’w brentisiaeth ddod i ben, llwyddodd i sicrhau cytundeb proffesiynol am ddwy flynedd gyda’r Toffees.

Methodd Lewis Codling, 22, ddiwedd y tymor diwethaf oherwydd bu’n gweithio yn Llundain am gyfnod.

Cyn hynny roedd wedi sgorio 17 o goliau mewn 59 (+7) o ymddangosiadau yng Nghynghrair Cymru.

Bydd yn ailymuno â chyn-gapten ail-dim Everton, John Irving, ar Faes Tegid.