Tom Maynard
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi cyfeirio achos Tom Maynard yn ôl i heddlu Llundain.
Roedd Heddlu Llundain wedi rhoi gwybod i’r Comisiwn am farwolaeth Tom Maynard gan fod heddweision wedi bod yn rhedeg ar ôl y cricedwr ychydig cyn iddo gael ei daro gan drên .
Daeth y Comisiwn Cwynion i’r casgliad nad oes angen ymchwil pellach ganddyn nhw.
Mewn datganiad dywed y Comisiwn Cwynion, “Yn ôl tystiolaeth yr heddlu , am 4.13yb gwelodd heddweision gar yn cael ei yrru’n ansicr ac fe ddilynon nhw’r car
“Stopiodd y gyrrwr a neidio allan ac ar ôl ras fer ar droed fe aeth y dyn o olwg yr heddlu ac ni fu cyswllt pellach. Mae’n ymddangos fod y dyn wedi cael ei daro gan drên am 5.04yb.
“Yn yr amgylchiadau mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu wedi cyfeirio’r mater yn ôl i Heddlu Llundain. Bydd Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn paratoi ffeil ar gyfer y crwner.”
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi dweud nad ydyn nhw’n trin y farwolaeth fel un amheus.
Mae’r gêm griced rhwng Morgannwg a Swydd Gaerwrangon, oedd fod i gael ei chwarae yng Nghaerdydd heno, wedi cael ei gohirio er parch i Tom Maynard a’i deulu. Cynrychiolodd Tom Maynard glwb Morgannwg ar bob lefel a bu ei dad Matthew Maynard yn chwaraewr ac yn hyfforddwr yn y clwb.