Mae’r blaenasgellwr profiadol Gavin Thomas wedi gorfod ymddeol yn dilyn anaf i’w ddwy ben-glin.

Cafodd Gavin Thomas 24 o gapiau dros Gymru a bu’n chwarae i’r Sgarlets am dros bum mlynedd cyn symud i chwarae dros Ddreigiau Gwent yn 2009.

Yn 2010, chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru ers tair blynedd yn erbyn y Crysau Duon yn y gobaith o ddirymu un o chwaraewyr gorau’r byd, Richie McCaw.

Yn dilyn y newyddion am ymddeoliad Gavin Thomas, dywedodd prif hyfforddwr y Dreigiau, Darren Edwards, ei fod wedi bod yn ddylanwad pwysig ar chwaraewyr ifanc y clwb.

“Bydda Gavin wastad yn dweud wrtha’i, ‘Paid ag edrych ar yr oedran ar fy mhasbort, edrycha ar be’ dw i’n gwneud ar y cae’. Roedd o’n chwaraewr gwych,” meddai’r hyfforddwr a ddaeth i’r clwb yn yr un haf â Gavin Thomas.

“Roedd o’n ddylanwad mawr ar y chwaraewyr ifanc ac yn perfformio’n dda, ac yn perfformio’n gyson.”

Roedd ei gytundeb â’r Dreigiau yn dod i ben ddiwedd y tymor.