Jonathan Davies
Dilyn ôl traed y Llewod yn 2009 yw gobaith hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards.

Yn 2009, roedd y Llewod yn wynebu colli’r gyfres yn Awstralia 3-0, ond sicrhaodd buddugoliaeth yn y gêm olaf eu bod yn dychwelyd adref heb y ‘llwy bren’.

“Mae’n sefyllfa digon tebyg i’r Llewod yn 2009 ac mi wnaethon ni gadw’n perfformiad gorau tan y tro olaf bryd hynny,” meddai’r hyfforddwr o Wigan.

“Mi fydd hi’n gyfle arall i’r tîm chwarae gyda’i gilydd, felly gobeithio y bydd yna welliant ar y perfformiad olaf.

“Efallai y gwnaiff Awstralia wella hefyd, ond dw i’n gobeithio y byddwn ni’n hyd yn oed gwell ddydd Sadwrn.”

Mae rhai o sêr tîm rygbi Cymru yn mynnu fod y gêm ddydd Sadwrn yn un pwysig ar gyfer datblygiad y tîm.

Mae gan Awstralia fantais ddiysgog yn y gyfres yn dilyn y fuddugoliaeth ddramatig yn erbyn Cymru ddydd Sadwrn diwethaf.

‘Dangos cryfder meddyliol’

Tra bod y gyfres ar ben i bob pwrpas, mae canolwr Cymru, Jonathan Davies yn gweld gêm olaf y gyfres fel cyfle i ddangos cryfder meddyliol y garfan.

“Yr hyn sy’n hanfodol yw ymateb y tîm,” meddai’r canolwr a sgoriodd ail gais Cymru yn erbyn y Wallabies wythnos diwethaf.

“Mae’n rhaid i ni ymateb yn bositif am ein bod ni’n gorfod gorffen y daith yn dda. Mae’n hollbwysig dod lawr yma a sicrhau buddugoliaeth.”

Mae capten y tîm, Sam Warburton, yn meddwl nad yw’r garfan yn debygol o adael i siom y gêm ddiwethaf effeithio ar y gêm brawf olaf.

“Yn bendant, dy’n ni ddim y math o chwaraewyr sy’n mynd i roi’n pennau lawr.

“Ry’n ni wastad wedi dangos cymeriad a bydd y canlyniad diwethaf yn ein hysgogi hyd yn oed yn fwy er mwyn sicrhau nad ydym ni’n mynd adref wedi colli 3-0.

“Ry’n ni’n gwybod nad ydym ni’n haeddu hynny. ‘Da ni’n llawer gwell ‘na hynny.”

Dydi Cymru heb guro gem yn Awstralia ers 1969.

Mae disgwyl i’r hyfforddwr, Rob Howley, enwi ei dîm i wynebu Awstralia fore ddydd Iau.