Mae Awstralia wedi dewis Kurtley Beale yn y tîm i wynebu Cymru ddydd Sadwrn.

Cafodd ei ddal ar gyhuddiad o ymosod ar rhywun mewn gwesty yn Brisbane yn ddiweddar.

Dydi Kurtley Belae heb chwarae dros ei wlad ers i’r Wallabies drechu Cymru ‘nôl yng Nghwpan Y Byd ym mis Hydref y llynedd.

Nid yw wedi bod ar gael i chwarae’n ddiweddar oherwydd anaf i’w ysgwydd.

Er fod Cooper Vuna ar gael ar gyfer y gêm ddydd Sadwrn yn dilyn ei gerdyn melyn yn y gêm brawf ddiwethaf, nid oes lle iddo yn y garfan.

Bydd Cymru’n enwi’u tîm fore dydd Iau.

Tîm Awstralia i chwarae Cymru ddydd Sadwrn:

Kurtley Beale; Adam Ashley-Cooper, Rob Horne, Pat McCabe, Digby Ioane; Berrick Barnes, Will Genia; Benn Robinson, Tatafu Polota Nau, Sekope Kepu, Sitaleki Timani, Nathan Sharpe, Scott Higginbotham, David Pocock (capten), Wycliff Palu.

Eilyddion: Stephen Moore, Ben Alexander, Rob Simmons, Dave Dennis, Michael Hooper, Nic White, Anthony Fainga’a