Tom Maynard
Mae teulu’r cricedwr Tom Maynard, a fu farw bore ddoe yn 23 mlwydd oed, wedi rhyddhau datganiad.

Gwnaed y datganiad ar ran teulu Tom Maynard gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (BTP).

“Hoffai’r teulu ddiolch i bawb am eu negeseuon cefnogol yn dilyn marwolaeth drasig Tom yn Llundain fore ddoe.”

“Fel y gallwch werthfawrogi, mae’r newydd wedi dod fel sioc enfawr i’r teulu ac er ein bod yn ddiolchgar iawn am yr holl negeseuon o gydymdeimlad, rydym yn gofyn yn garedig am lonydd i allu galaru mewn preifatrwydd yn ystod yr amser caled a thrist yma i ni.”

Dywedodd llefarydd ar ran y BTP fod swyddogion wedi ei galw i’r orsaf drenau danddearaol ger Parc Wimbledon yn Llundain fore Llun.

Er i Tom Maynard dderbyn triniaeth gan feddygon Gwasanaeth Ambiwlans Llundain, roedd wedi marw yn y fan a’r lle.