Tommie Collins fu’n cystadlu yn ras feicio Etape Eryri ddydd Sul. Dyma’i argraffiadau o’r ras…
Ie – blog am Sportive arall, ond y tro yma ar stepen fy nrws. Fel arfer mae’n rhaid teithio i dde Cymru neu Loegr i gael cystadlu mewn Sportive – sef her ar feic.
Nid oeddwn am gystadlu i ddechrau am fod y gost yn £35. Ond dyma ailfeddwl wedyn – wedi’r cyfan, nod y bobol oedd yn eu trefnu oedd ceisio denu pobol i’r ardal…a dim ond pris hanner sesh ydy £35!
Yn amlwg roedd pawb yn cadw llygad barcud ar y tywydd yn ystod yr wythnos flaenorol, a thrwy lwc doedd dim problem o gwbl â’r tywydd – heblaw am y gwynt cryf ar y Mignaint.
Roedd bosib i chi gofrestru yng Nghaernarfon ar y dydd Sadwrn, ac fe wnes gymryd yr opsiwn yma i arbed amser yn y bore. Roedd y cofrestru yn hollol ddidrafferth a phawb yn barod i roi cyngor ac ateb unrhyw gwestiynau.
Gwely’n gynnar nos Sadwrn a chodi 05.30 yn y bore. Parciais y car yn nhŷ fy ffrind a seiclo rhyw filltir i’r maes yn y Dre. Roedd yn brysur iawn yno a phawb i weld yn nerfus ond isio dechrau dwi’n sicr. Roedd problem gen i gan fod rhaid gwisgo helmed. Nid wyf yn hoffi gwisgo helmed gan ei bod fel popty ar fy mhen – peidiwch â fy marnu, nid yw’n gyfraith a dewis personol ydyw.
Y llinell ddechrau (llun: Tommie Collins)
Trefniadau da
Roedd Telor Iwan sy’n byw yng Nghaerdydd wedi dod yn ôl i’r gogledd i gystadlu am seiclo gyda mi, ac roedd Hefin Pugh o Borthmadog yn ymuno â ni hefyd. Beth bynnag roedd Telor yn dipyn cryfach ar y diwrnod ac roedd Hefin yn mynd yn dda i feddwl nad oedd wedi seiclo’r pellter hyn o’r blaen.
Roedd tri phellter i’w ddewis, 49 bach – 76 canol a 103 mawr. Chwarae teg – dwi wedi cystadlu mewn ambell sportive dros y blynyddoedd ac roedd trefniadaeth Etape Eryri o’r safon uchaf. Da iawn nhw a phawb oedd yn gwirfoddoli yn y llefydd diod a bwyd, a’r stiwardiaid ar bob cyffordd. Nid oedd peryg o fynd ar goll.
Roedd y tri llwybr yn her, mi wnes orffen yr un mawr mewn 7 awr 43 munud – yr amser seiclo oedd 7.02 ond am ryw reswm roeddwn wedi seiclo 106 milltir!
Roedd dau seiclwr proffesiynol o dîm Sky â’u rheolwr, sy’n wreiddiol o Ddeiniolen, Dave Brailsford wedi cymryd rhan.
Ie diwrnod grêt, hwb arall i Ogledd Cymru a Sportive arall wedi ei gwblhau. Roedd 600 wedi cystadlu dw i’n sicr y bydd mwy yn 2013.