Gethin Jenkins
Mae Gethin Jenkins yn credu y bydd Cymru yn cymryd agwedd gadarnhaol wrth groesawu’r Alban i Stadiwm y Mileniwm Ddydd Sul.
Yn y gorffennol mae Cymru wedi ymateb yn dda wrth golli gemau ond yn awr maent yn benderfynol o ddysgu wrth fuddugoliaethau, meddai Jenkins.
Roedd Cymru wrth eu boddau wedi i Leigh Halfpenny gipio’r 3 phwynt i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Iwerddon ddydd Sul diwetha. Ond cyfaddefodd Jenkins nad oedd y gêm yn berffaith o bell ffordd.
Anafiadau
Roedd buddugoliaeth yn erbyn y Gwyddelod wedi nodi llwyddiant cyntaf y tim mewn pedair gêm ers curo’r Gwyddelod yn y chwarteri yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd ym mis Hydref.
Fodd bynnag, daeth y fuddugoliaeth yn ddrud gyda Bradley Davies yn derbyn cerdyn felen ac yn methu gweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd ei dacl a’r Donnacha Ryan. Hefyd gwelir enwau Sam Warburton ac Alex Cuthbert yn cael eu hychwanegu i’r rhestr hirfaith o anafiadau.
Mae Cymru yn parhau i fod yn ffefrynnau i guro’r Alban a gollodd yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn diwethaf.
‘‘Er ei fod yn gêm agos, ac wedi ennill yn y funud olaf, yr oeddem yn meddwl ein bod wedi chwarae’n dda. Roedd yn gêm fawr i ni ac fe chwaraeon ni’n dda fel uned o ystyried ein bod wedi ymarfer gyda’n gilydd am bythefnos yn unig. Rydym wedi gweithio’n galed ac yn edrych ymlaen at y penwythnos,’’ dywedodd Jenkins.