Fabio Capello - wedi mynd
Mae’r galw eisoes wedi dechrau i wneud rheolwr Spurs, Harry Redknapp, yn rheolwr nesa’ tîm pâl-droed Lloegr.
Ddoe, ar y diwrnod pan gafodd ef ddedfryd ddieuog ar gyhuddiadau o osgoi talu trethi, fe ymddiswyddodd Fabio Capello o arwain y tîm cenedlaethol.
Fe ddaeth hynny ar ôl cyfarfod hir gyda phenaethiaid Cymdeithas Bêl-droed Lloegr ar ôl iddo anghytuno’n gyhoeddus â’r penderfyniad i dynnu capteniaeth y tîm oddi ar chwaraewr Chelsea, John Terry.
Roedd Capello’n credu y dylen nhw fod wedi aros tan ar ôl yr achos llys ac mae’n dweud fod y penderfyniad, heb ymgynghori gydag ef, yn tanseilio’i sefyllfa.
Y ffefryn
Harry Redknapp, sydd wedi arwain Spurs i’w cyfnod gorau yn yr Uwch Gynghrair, yw’r ffefryn clir i gymryd y swydd ac mae un cwmni betio’n gwrthod derbyn rhagor o arian arno.
Mae un o brif chwaraewyr y wlad, Wayne Rooney, hefyd wedi cyhoeddi neges trydar yn pledio am gael Redknapp yn rheolwr.
Mae yna elfen o frys o ran llenwi’r swydd £6 miliwn-y-flwyddyn, gan fod Lloegr yn cymryd rhan yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop ymhen pedwar mis.
Ond fe fydd gwrthwynebiad o gyfeiriad Tottenham Hotspur – mae gan Redknapp fwy na dwy flynedd ar ôl ar ei gytundeb ac mae’r clwb yn herio am y bencampwriaeth am y tro cynta’ ers blynyddoedd maith.
Pedwar digwyddiad allweddol
- John Terry, capten Lloegr, yn cael ei gyhuddo mewn llys o drosedd hiliol yn erbyn chwaraewr arall.
- Cymdeithas Bêl-droed Lloegr yn penderfynu na ddylai fod yn gapten Lloegr.
- Fabio Capello’n gwrthwynebu hynny’n agored ar deledu’r Eidal, gan ddweud nad oedd yn rhan o’r drafodaeth.
- Harry Redknapp yn cael dedfryd ddieuog ar gyhuddiadau o osgoi talu treth – yr un funud bron ag yr oedd Capello’n gadael.