Raymond Verheijen
Mae awgrym heno y gallai Raymond Verheijen barhau i fod yn rhan o dîm hyfforddi newydd Cymru dan reolaeth Chris Coleman.

O’r diwedd, cafwyd cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf rhwng rheolwr newydd Cymru, ac is-reolwr ei ragflaenydd, Gary Speed heddiw.

Er bod Coleman wedi’i benodi ers 19 Ionawr, nid yw wedi gallu cwrdd â Verheijen tan heddiw oherwydd ymrwymiadau gan y gŵr o’r Iseldiroedd – mae’n cynnal cyrsiau hyfforddi ledled y byd.

Gan fod Verheijen wedi bod yn barod iawn i fynegi ei awydd i gamu i esgidiau Speed, roedd amheuaeth a fyddai modd iddo gydweithio â Coleman.

Mae’r synau cadarnhaol sydd wedi’u gwneud yn dilyn y cyfarfod yn siŵr o fod yn syndod i nifer o sylwebyddion a chefnogwyr felly.

Yn gynharach heno roedd erthygl ar wefan y Guardian yn awgrymu bod y cyfarfod cyntaf wedi bod yn un da.

Yna, yn nes ymlaen heno fe welwyd neges Twitter gan Verheijen yn atgyfnerthu’r awgrymiadau yma.

“Cyfarfod diddorol gyda rheolwr newydd Cymru Chris Coleman ynghynt heddiw. Argraffiadau cyntaf cadarnhaol.”

Does dim cyhoeddiad swyddogol wedi ei wneud gan y Gymdeithas Bêl-droed na Coleman eto, ond mae’n ymddangos bod y drws yn agored i Verheijen barhau â’i waith fel rhan o dîm hyfforddi Cymru.