Bradley Davies
Mae chwaraewr rygbi ail-reng Cymru, Bradley Davies, wedi clywed y prynhawn yma na fydd yn cael chwarae yng ngweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Mae Bradley Davies wedi cael ei wahardd rhag chwarae am saith wythnos yn sgil tacl anghyfreithlon ar un o chwaraewyr Iwerddon yn ystod eu gêm ddydd Sul.
Derbyniodd Bradley Davies garden felen am y dacl waywffon beryglus ar Donnacha Ryan yn ugain munud ola’r gêm ddydd Sul.
Enillodd Cymru’r gêm yn Nulyn – gêm gyntaf y bencampwriaeth i’r cochion – o 23 i 21 yn eiliadau ola’r chwarae.
‘Carden goch’
Roedd llawer o drafod ar y pryd y gallai’r dacl fod wedi bod yn garden goch – a rhai yn honni ei bod yn llawer gwaeth na’r dacl a welodd Sam Warburton, capten Cymru yn ystod gemau Cwpan y Byd y llynedd, yn cael ei anfon o’r cae gyda charden goch.
Aeth y chwaraewr 25 oed o flaen panel disgyblu’r Chwe Gwlad yn Llundain heddiw.
Y disgwyl yw y bydd Ryan Jones nawr yn camu i esgidiau’r chwaraewr ail-reng pan fydd Cymru’n herio’r Albanwyr yn y gêm nesaf ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd, ddydd Sul.