Dwayne Peel
Mae tri o Gymry Siarciau Sale wedi penderfynu ymestyn eu cytundebau.

Bydd Dwayne Peel, Marc Jones a Nick Macleod yn aros gyda’r clwb o ardal Stockport, ger Manceinion.

Ymunodd Dwayne Peel, 30, gyda’r clwb o’r Sgarlets yn 2008.

Er nad yw’n chwarae i Gymru rhagor, mae’n parhau i fod yn aelod allweddol o garfan y Siarcod. Cafodd 76 cap dros Gymru, a bu’n cynrychioli Llewod Prydain ac Iwerddon ar dri achlysur.

Mae e wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd.

“Rwy’n falch iawn o glywed am y cytundeb newydd. Rwy’n cael amser da yma. Mae cyfnod cyffrous o’n blaenau, ac rwy’n hapus i fod yn rhan o hynny,” dywedodd Dwayne Peel.

Nick Macleod

Ymunodd Macleod, sy’n 28, yn 2008 hefyd, yn chwarae’i gêm gyntaf i’r clwb yn erbyn ei dîm blaenorol, sef Gleision Caerdydd.

Mae e wedi hawlio safle’r maswr, ac wedi sgorio 231 o bwyntiau’r tymor yma, gyda naw gem ar ôl i’w chwarae.

Mae Nick Macleod hefyd wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd.

Marc Jones

Er mai dim ond 24 mlwydd oed yw Marc Jones, dyma’i seithfed tymor gyda’r clwb.

Llofnododd gytundeb am flwyddyn arall.

“Mae’r Siarcod yn sicr yn glwb mawr yn mynd yn y cyfeiriad iawn,” dywedodd Marc Jones.