Warren Gatland
Roedd disgwyl i Warren Gatland enwi’r tîm i groesawu’r Alban  heddiw ond mae wedi penderfynu gohirio’r cyhoeddiad tan yfory.

Daw’r penderfyniad ar ol i Bradley Davies  glywed ddoe y bydd yn wynebu panel disgyblu heddiw, yn dilyn ei dacl ar Donnacha Ryan yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sul.

Mae disgwyl i Bradley Davies gael ei wahardd rhag chwarae am rai wythnosau o leiaf.

“Mae’n rhaid i ni baratoi am y gwaethaf,” dywedodd Gatland.

Ergyd

Mae Dan Lydiate a Gethin Jenkins wedi dechrau ymarfer gyda’r tîm yn gynharach yn yr wythnos, wedi i’r ddau golli’r gêm yn erbyn Iwerddon.

Mae disgwyl hefyd bydd y capten Sam Warburton wedi gwella ar ôl cael anaf i’w goes yn ystod y gêm yn Nulyn.

Mae’r bachwr Matthew Rees dal yn dioddef o anaf i groth ei goes.

Ac mi fydd colli Bradley Davies yn ergyd drom i Gatland, o ystyried cyflwr ei ddau glo arall o Gwpan y Byd llynedd.

Mae Alun Wyn Jones heb wella o’r anaf i fys ei droed, a Luke Charteris wedi anafu ei arddwrn.

Mae Alex Cuthbert, yr asgellwr newydd, yn gwella ar ôl anaf i’w ben.

Gohirio eto

Cafodd cyhoeddiad tîm rygbi Cymru i wynebu Iwerddon ei ohirio tan Ddydd Gwener wythnos diwethaf, a hynny oherwydd nifer o anafiadau.

Bydd Cymru yn chwarae’r Alban, yn Stadiwm y Mileniwm, am 3 o’r gloch Ddydd Sul.

Bydd Ffrainc yn croesawu’r Gwyddelod i Baris, a Lloegr yn hedfan i Rufain i wynebu’r Eidalwyr.