Dan Parks
Mae Dan Parks, maswr y Gleision a’r Alban, wedi ymddeol o rygbi rhyngwladol.

Cafodd ei 67fed cap yn erbyn Lloegr yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond mae e wedi rhoi’r ffidil yn y to yn dilyn gêm olaf drychinebus.

Parks sy’n cael ei feio am golled yr Alban yng Nghwpan Calcutta, wedi i Charlie Hodgson gael ei ddwylo ar y bêl wrth i Parks geisio ei chlirio.

Sgoriodd Lloegr unig gais y gêm o ganlyniad, ac roedd gobeithion Parks am un fuddugoliaeth olaf yn deilchion.

Yn dilyn perfformiad siomedig Lloegr yng Nghwpan y Byd, roedd yr Albanwyr wedi gobeithio byddai 2012 yn flwyddyn dda i drechu’r hen elyn.

Ond nid fel hynny y bu.

13-6 oedd y sgôr terfynol.

Ei gynllun yn deilchion

Mae’r papurau Saesneg  yn cael hwyl ar ei ben y bore ma.

Dywedodd Parks ei fod wedi ystyried ymddeol ar ôl Cwpan y Byd, ond roedd e am un cyfle olaf i drechu’r ‘hen elyn.’

“Roeddwn i wedi ystyried e ond roedd gem gyntaf y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr, yr hen elyn, roedd Jacko (Ruaridh Jackson) wedi’i anafu, ac roedd gallu chwarae yn erbyn Lloegr yn beth mawr i fi.”

Ail feddwl wedi’r gêm

Ond dywedodd ar safle we Scotland Rugby ei fod e wedi ail-feddwl yn dilyn y gêm yn erbyn Lloegr.

“Wedi ystyried y peth ar ôl y gêm, a thrafod y sefyllfa gyda fy nheulu, fy nghariad a ffrindiau agos, rwyf i wedi dod i’r penderfyniad fod nawr yn amser da i ymddeol o’r gêm ryngwladol.

Mae rhai cefnogwyr Cymreig wedi bod yn datgan eu siom ar Facebook a Twitter, am na fydd Parks yn cael y cyfle i fethu eto yn erbyn Cymru dydd Sul.

Bydd tîm Cymru yn erbyn yr Alban yn cael ei chyhoeddi heddiw.

Disgwylir i Duncan Weir, maswr y Glasgow Warriors ennil ei gap cyntaf yn erbyn Cymru dydd Sul.