Roger Lewis
Mae Clwb Rygbi Pontypridd wedi cefnogi’r ymgyrch i gael tîm rhanbarth proffesiynol yn y Cymoedd.
Neithiwr, fe bleidleisiodd cyfarwyddwyr y clwb o blaid yr ymgyrch sydd wedi ei dechrau gan yr Aelod Seneddol lleol, Owen Smith.
Ond y bore yma fe ddywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru ei bod “yn hollol afrealistig” i feddwl am ychwanegu rhanbarth rygbi arall at y pedair sy’n bod eisoes.
Fe fyddai’n fodlon edrych ar gynllun busnes call, meddai wrth Radio Wales, ond fe fyddai’n rhaid i ranbarth newydd ddisodli un o’r hen rai.
Yr ymgyrch
Mae ardal rygbi Canol y Cymoedd hefyd wedi galw am sefydlu rhanbarth i’r gogledd o’r M4 ac wedi anfon llythyr ffurfiol at yr Undeb.
Ar hyn o bryd, mae’r Undeb yn ystyried trefn ariannol newydd wrth i ddwy o’r rhanbarthau wynebu trafferthion ariannol mawr.
Dadl Owen Smith yw fod angen rhanbarth ychwanegol ond gyda model ariannol gwahanol.