Casnewydd 4-0 Carshalton

Mae Casnewydd yn rownd gogynderfynol Tlws yr FA ar ôl curo Carshalton ym Mharc Sbyty nos Fawrth. Roedd y Cymry yn llawer rhy gryf i’r tîm o Uwch Gynghrair Isthmian (y seithfed lefel ym mhyramid pêl droed Lloegr).

Agorodd Sam Foley y sgorio wedi dim ond pedwar munud ac roedd hi’n ddwy ddeg munud cyn yr egwyl wedi i Elliott Buchanan rwydo.

A sicrhaodd tîm Justin Edinburgh y fuddugoliaeth wedi munud o’r ail hanner pan rwydodd Adam Chapman y drydedd. A choronwyd y cyfan ddau funud cyn y diwedd pan sgoriodd Romone Rose y bedwaredd.

Canlyniad da i Gasnewydd felly a chyfle da am daith i Wembley ar ddiwedd y tymor ond mae ganddynt gêm llawer pwysicach oddi cartref yn Stockport brynhawn Sadwrn wrth iddynt ymladd i gadw eu lle yn Uwch Gynghrair y Blue Square.