Bradley Davies
Fe fydd Bradley Davies yn clywed heddiw a fydd yn cael cosb ychwanegol am dacl ffiaidd yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sul.
Y disgwyl yw na fydd Bradley Davies ar gael i chwarae i Gymru am weddill y gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Wedi’r gêm ddydd Sul, cyfaddefodd Warren Gatland fod Bradley Davies yn haeddu’r garden goch am y dacl ar Donnacha Ryan 65 munud mewn i’r gêm.
“Bydden i ddim wedi dadlau gyda’r penderfyniad i roi’r garden goch iddo fe am y dacl yna,” dywedodd Prif Hyfforddwr tîm rygbi Cymru.
Melyn, Coch, Mas
Cafodd Davies garden felen ar y pryd, ond mae disgwyl iddo gael ei gosbi’n llym heddiw.
Roedd y dacl yn ymddangos i fod yn llawer mwy difrifol na’r dacl gafodd Sam Warburton garden goch amdani yng Nghwpan y Byd 2011.
Enillodd Cymru’r gêm 23-21, ond roedd yna ddrwgdeimlad eto ar ran y Gwyddelod, yn dilyn ‘cais ffug’ enwog Mike Phillips yn eu herbyn y llynedd.
Gatland yn beirniadu Bradley
Dywedodd Gatland fod angen i Bradley Davies wella’i ddisgyblaeth er mwyn chwarae rygbi rhyngwladol.
Cafodd Bradley Davies garden felen hefyd yn y Bencampwriaeth y llynedd, yn erbyn yr Alban.
“Dyw e ddim yn rygbi clwb, lle dewch chi bant a’r pethau ’ma.
Cafodd Bradley Davies garden felen gan y dyfarnwr, Wayne Barnes, ond mae yna’r disgwyliad fydd y panel disgyblaeth yn ei gosbi’n llym.
Pwy fydd yn chwarae yn y rheng ganol?
Mae bosib fydd capten tîm Cymru, Sam Warburton, hefyd yn colli’r gêm yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn, yn dilyn anaf yn y gêm yn Nulyn.
A gydag Alun Wyn Jones a Luke Charteris wedi’u hanafu, fydd hi’n wythnos arall i Gatland bendroni wrth ddethol ei dim.
Bydd ei dri clo o Gwpan y Byd ddim ar gael os fydd Bradley Davies yn cael ei wahardd rhag chwarae.