George North
Aled Price sy’n dadansoddi perfformiad Cymru mewn buddugoliaeth fythgofiadwy yn erbyn y Gwyddelod ddoe…
Dechreuodd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y modd gorau posib i dîm Cymru yn Nulyn ddoe, gyda chic gosb â llai na munud i fynd gan Leigh Halfpenny i ennill yr ornest.
Ni ellir tanbrisio maint y fuddugoliaeth wrth edrych ar nifer yr anafiadau yn y pac. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, cafodd Declan Kidney y fantais o ddewis yr un pac yn union a dechreuodd gêm y chwarteri yn Seland Newydd.
Mae ennill ar dir Iwerddon yn gamp anodd ar yr amser orau. Yn enwedig yn sgil llwyddiant timau Iwerddon yng Nghwpan Ewrop. Dim ond dwy fuddugoliaeth mae Cymru wedi’i sicrhau yno, yn hanes y Chwe Gwlad. Serch hynny, aeth tîm ifanc Warren Gatland i’r Aviva heb unrhyw ofn.
Hyd yn oed pan gollwyd eu capten, Sam Warburton i anaf, doedd dim panig. Bydd hon yn fuddugoliaeth a fydd yn helpu’r garfan ifanc yma i aeddfedu ymhellach a’u gwneud nhw hyd yn oed yn fwy peryglus.
Bois ifanc yn serennu
Rydw i dal ddim yn hollol siŵr sut na chafodd George North ei enwi’n seren y gêm. Cafodd y gŵr ifanc o Ynys Môn un o’i gemau gorau eto wrth iddo ddangos ei bŵer i bawb ei weld. Taranodd trwyddo Fergus McFadden cyn dadlwytho’r bêl trwy’r drws cefn i Jonathan Davies sgorio ail gais campus.
Yna, sgoriodd North gais gwych yn y munudau olaf, i arwain y ffordd at y fuddugoliaeth, gan lusgo tri Gwyddel dros y llinell gydag ef.
Mae’n anodd credu taw dim ond 19 oed yw’r Sgarlad, ac mae’r cymariaethau â’r chwedlonol Jonah Lomu yn ymddangos yn reit agos i’r nod.
North yw’r chwaraewr ieuengaf erioed i sgorio deg cais rhyngwladol. Cyffrous? Ie, wir.
Chwaraewr dibrofiad arall a ddaliodd y llygad oedd prop y Saraseniaid, Rhys Gill. Camodd i mewn i esgidiau anferth Gethin Jenkins a pherfformio’n wych. Sgrymiodd yn dda ac roedd ei gyfraniad o amgylch y cae, yn enwedig ei daclo, yn anferth.
Fe’i gwelais yn chwarae yn erbyn y Gweilch yng Nghwpan Ewrop a chreodd argraff fawr arna’i. Chwaraeodd yn well na Paul James bryd hynny ac roedd yn haeddu ei le yn erbyn Iwerddon. Yn fy marn i, rhaid canmol y dewisiad yma gan Gatland.
A sôn am y Gweilch, cafodd Justin Tipuric gêm ardderchog hefyd ar ôl dod bant o’r fainc ar yr hanner i gymryd lle Warburton. Mae Tipuric wedi creu argraff ar faes y Liberty ond ni feddyliais byddai’n chwarae cystal i Gymru.
Roedd y blaenasgellwr yn wych wrth dderbyn ei her fwyaf yn y crys coch â breichiau agored. Enillodd mwy o bêl na Warburton yn ardal y dacl. Taclodd yn wych. Enillodd bêl yn y lein a chariodd yn dda.
Ddim yn berffaith
Peidiwch â meddwl taw perfformiad cyflawn oedd hwn. Mae digon gan Gatland a’i hyfforddwyr i weithio arno wrth baratoi i herio’r Alban wythnos nesaf. Mae’r lein wedi bod yn broblem i Gymru ers nifer o flynyddoedd. Serch hynny, gweithiodd heb ormod o broblem yng Nghwpan y Byd gyda Huw Bennett fel bachwr.
Yn anffodus daeth yr hen broblemau yn ôl i’r wyneb yn erbyn Iwerddon. Mae’n anodd rhoi fy mys ar y broblem yn union. Un rheswm efallai yw, nad ydy Bennett wedi bod yn dechrau i’r Gweilch y tymor hwn? Neu efallai bod rhaid rhoi clod i Paul O’Connell ac ildio i un o’r chwaraewyr ail-reng gorau erioed.
Beth bynnag, bydd rhaid gweithio’n galed cyn yr Alban. Sgoriwyd ail gais Jon Davies yn syth o lein lwyddiannus felly mae’n bwysig iawn i gael pêl ddefnyddiol.
Beth wyt ti’n neud?
Bydd hynny’n llawer anoddach os bydd Bradley Davies yn cael ei wahardd am dacl erchyll, hollol anghyfreithlon ar Donnacha Ryan. Dylai gael ei wahardd am gyfnod hir i fod yn onest – does dim modd cyfiawnhau’r dacl a dydw i dal ddim yn siŵr beth aeth trwy ei feddwl.
Os caiff ei wahardd efallai y bydd Ryan Jones yn symud ymlaen i ail-reng y pac. Mae Ryan wedi bod ar dân y tymor hwn a chafodd gêm wych yn y rheng ôl ddoe.
Rhaid penderfynu hefyd ar ba giciwr i’w ddefnyddio o’r dechrau yn erbyn yr Alban. Mae Halfpenny wedi bod yn cicio’n wych trwy’r tymor i’r Gleision. Yn fy nhyb i, mae rhaid iddo ddechrau gyda’r ddyletswydd. Yn enwedig ar ôl iddo sicrhau buddugoliaeth enwog i’r Cymry.
Roedd gemau Chwe Gwlad dydd Sadwrn yn eithaf diflas ond taniodd y gystadleuaeth mewn ffordd fythgofiadwy ddydd Sul. Ai cystadleuaeth fythgofiadwy fydd hon i Gymru tybed? Gallwn ond gobeithio…