Gleision 36-30 Racin Metro

Mae’r Gleision yn chwarteri’r Cwpan Heineken yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Racin Metro yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw. Ond bydd gêm anodd yn aros y rhanbarth o Gymru yn y rownd nesaf wedi iddynt orffen yn ail yng ngrŵp 2 ar ôl methu a sicrhau pwynt bonws yn erbyn y Ffrancwyr.

Llwyddodd Caeredin i wneud hynny yn eu gêm hwy yn erbyn Gwyddelod Llundain yn Murrayfield diolch i gais hwyr Lee Jones ac felly’r Albanwyr sy’n ennill y grŵp. Ond mae 21 pwynt y Gleision yn ddigon i sicrhau lle iddynt yn y chwarteri fel un o’r timau gorau i orffen yn ail yn eu grŵp.

Hanner Cyntaf

Yr ymwelwyr o Ffrainc a gafodd y gair cyntaf a hynny yn dilyn trosedd yn ardal y dacl wedi pum munud o chwarae. Llwyddodd maswr yr ymwelwyr, Jonathan Wisniewski, gyda’r gic o bellter i roi ei dîm ar y blaen.

Ond tarodd y Gleision yn ôl o fewn munud gyda chais i Lloyd Williams. Tarodd mewnwr Cymru gic Francois Steyn i lawr yn ardal 22 medr Racin cyn ei chasglu a’i thirio, 7-3 i’r tîm cartref yn dilyn trosiad Leigh Halfpenny.

Roedd y Ffrancwyr yn ôl o fewn pwynt ddau funud yn ddiweddarach wedi i Chris Czekaj daro yn erbyn un o’i gyd chwaraewyr wrth geisio gwrthymosod. Llwyddodd Wisniewski gyda’i ail gynnig at y pyst i gau’r bwlch.

Yna llwyddodd Halfpenny gyda chic gosb wedi 11 munud cyn methu gyda chyfle o bellter bedwar munud yn ddiweddarach, 10-6 i’r Gleision wedi chwarter awr o chwarae.

Ond roedd Racin yn ôl ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner yn dilyn cais y cefnwr, Josh Matavesi. Cafwyd cyd chwarae da gan Steyn a Sireli Bobo ar yr asgell dde cyn i Matavesi groesi yn y gornel. Methodd Wisniewski’r trosiad ond roedd ei dîm ar y blaen o 11-10.

Bu rhaid i Wisniewski adael y cae yn fuan wedi hynny a chymerodd y mewnwr, Sebastien Descons, y cyfrrifoldebau cicio gan lwyddo gyda chynnig o bellter wedi 23 munud i ymestyn mantais Racin i bedwar pwynt.

Caeodd Halfpenny’r bwlch hwnnw i bwynt unwaith eto dri munud yn ddiweddarach cyn i gais Alex Cuthbert roi’r tîm cartref ar y blaen wedi ychydig dros hanner awr o chwarae. Lledodd y Gleision y bêl yn gyflym o’r asgell chwith i’r dde yn dilyn sgrym ar y llinell hanner a sgoriodd yr asgellwr y cais er gwaethaf awgrym iddo daro’r bêl ymlaen wrth ei derbyn. Llwyddodd Halfpenny gyda’r trosiad, 20-14 i’r Gleision gyda deg munud o’r hanner ôl.

Ond doedd Racin heb orffen eto ac roeddynt yn ôl ar y blaen dri munud yn ddiweddarach diolch i gais Bobo. Bylchodd Fabrice Estebanez yn gryf cyn cael ei stopio bum medr o’r llinell, ond sicrhaodd Racin bêl gyflym yng nghysgod pyst y Gleision cyn i’r asgellwr mawr hyrddio’i hun drosodd. 21-20 i’r ymwelwyr yn dilyn trosiad llwyddiannus Descons.

Cyfnewidiodd Halfpenny a Steyn gic gosb yr un cyn yr egwyl wrth i hanner cyffrous ddod i ben gyda’r ymwelwyr o Ffrainc ar y blaen o 24-23.

Ail Hanner

Roedd llai na munud o’r ail hanner wedi mynd pan sgoriodd Cuthbert ei ail gais o’r gêm i roi’r Gleision yn ôl ar y blaen. Roedd hi’n ras rhyngddo ef a Bobo am y gornel ond er i’r gŵr o Fiji ddal asgellwr ifanc Cymru llwyddodd Cuthbert i dirio’r bêl yn ôl y dyfarnwr teledu. Llwyddodd Halfpenny gyda’r trosiad i roi chwe phwynt o fantais i’r Gleision yn gynnar yn yr ail hanner.

Doedd Gleision heb chwarae ar eu gorau ond roeddynt yn awr ar y blaen, a ddim ond angen un cais arall i sicrhau pwynt bonws a allai fod mor bwysig.

Methodd Descons gyda’i ymdrech gyntaf at y pyst yn yr ail hanner cyn llwyddo gyda’i ail wedi 49 munud i gau’r bwlch i dri phwynt. Ond llwyddodd Halfpenny i adfer y chwe phwynt o fantais funud yn ddiweddarach wrth i Racin droseddu’n syth o’r ail ddechrau, 33-27 i’r Gleision gyda hanner awr yn weddill.

Tawelodd y gêm am y tro cyntaf wedi hynny ond llwyddodd Racin i gadw’r Gleision ar flaenau’u traed gyda thri phwynt arall toc wedi’r awr, Steyn yn llwyddo gyda chic arall o bellter.

Roedd gan y Gleision benderfyniad pwysig i’w wneud bob tro yr oedd y dyfarnwr yn rhoi cic gosb iddynt yn y deg munud olaf, dim ond tri phwynt o fantais oedd ganddynt ond gallai’r pwynt bonws fod mor bwysig. Aethant am y gornel y tro cyntaf cyn setlo am y tri phwynt ar yr ail achlysur, 36-30 gyda saith munud ar ôl.

Bu bron i Xavier Rush gyrraedd y llinell yn dilyn bylchiad gwych ychydig funudau yn ddiweddarach ond dim cais yn ôl y dyfarnwr teledu. Mynd am y gornel oedd dewis y Gleision ddwywaith yn y munudau olaf wrth iddynt chwilio am y pedwerydd cais holl bwysig ond colli’r meddiant a wnaeth y tîm cartref ar y ddau achlysur wrth iddi orffen yn 36-30.

Yn y Chwarteri

Mae llwyddiant Caeredin i sicrhau pwynt bonws hwyr yn golygu mai nhw sy’n gorffen ar frig grŵp 2 ond mae lle i’r Gleision yn y chwarteri fel un o’r timau gorau i orffen yn yr ail safle. Mae hynny’n golygu gêm hynod anodd oddi cartref yn erbyn Leinster yn y rownd nesaf ond fydd y Gleision fel yr unig dîm o Gymru i fynd drwodd ddim yn cwyno’n ormodol.