Biarritz 36–5 Gweilch

Mae’r Gweilch allan o Ewrop ar ôl colli yn erbyn Biarritz yn y Parc des Sports Aguilera heddiw. Dim ond y llygedyn lleiaf o obaith o’i gwneud hi i chwarteri’r Cwpan Heineken oedd gan y rhanbarth o Gymru pryn bynnag ond mae’r golled hon heddiw yn golygu na fydd y Gweilch yn cystadlu yn y Cwpan Amlin chwaith.

Hanner Cyntaf

Roedd y tîm o Wlad y Basg ar y blaen wedi dim ond pedwar munud diolch i gais yr asgellwr, Takudzwa Ngwenya, a throsiad y mewnwr dylanwadol, Dimitri Yachvili.

Ac roedd y tîm cartref ym mhellach ar y blaen wedi dim ond deg munud wedi i Ngwenya sgorio ei ail gais o’r gêm. Gwnaeth Iain Balshaw yn dda cyn dadlwytho i’r asgellwr a thiriodd ef yn y gornel er gwaethaf ymdrechion Tommy Bowe i’w daclo. Llwyddodd Yachvili gyda throsiad gwych o’r ystlys i ymestyn mantais ei dîm i 14 pwynt.

Roedd y fantais honno yn 17 pwynt ar hanner amser yn dilyn cic gosb o droed Yachvili wedi 25 munud.

Y Gweilch ar ei hôl hi ar hanner amser felly diolch i ddau gais asgellwr de Biarritz, ond gallai pethau fod wedi bod yn llawer gwaeth i’r rhanbarth o Gymru gan i’r asgellwr chwith, Benoit Baby, groesi ddwywaith i’r tîm cartref hefyd. Ond barnodd Stuart Barnes fod pas ymlaen yn y symudiad ar y ddau achlysur.

Ail Hanner

Daeth Kahn Fotuali’i ar y cae yn lle Rhys Webb ar gyfer yr ail hanner a wnaeth y mewnwr ddim cymryd llawer o amser i greu argraff. Yn anffodus, argraff negyddol oedd honno wrth iddo gael ei anfon i’r gell gosb yn dilyn tacl beryglus ar Wenceslas Lauret wedi dim ond pedwar munud o’r ail hanner.

A chafodd y Gweilch eu cosbi ym mhellach ychydig funudau yn ddiweddarach. Roedd Shane Williams wedi gorfod symud i safle’r mewnwr yn absenoldeb Fotuali’i gan adael ei asgell dde yn ddi amddiffyn ac ar yr asgell honno y croesodd Baby yn y gornel. Gwnaeth Bowe ei orau glas i atal y cais ar y llinell unwaith eto, ond unwaith eto caniataodd Barnes y cais ar ôl holi’r dyfarnwr teledu. Methodd Yachvili am y tro cyntaf at y pyst ond roedd y tîm cartref ar y blaen o 22-0.

A sicrhaodd Biarritz y pwynt bonws wedi 58 munud pan groesodd Balshaw yn y gornel yn dilyn pas dda Damien Traille. Llwyddodd Yachvili gyda’r trosiad y tro hwn, 29-0.

Ond tarodd y Gweilch yn ôl yn syth wrth i’r eilydd o fachwr, Richard Hibbard, dirio yn y gornel. Ac er i’r eilydd o faswr, Matthew Morgan, fethu’r trosiad roedd gan y Gweilch rhywbeth i’w ddathlu.

Ac roedd Morgan yn ei chanol hi eto ddau funud yn ddiweddarach wrth iddo ddechrau gwrthymosodiad yn ddwfn yn ei hanner ei hunan, ac er i Shane Williams groesi o dan y pyst barnodd Barnes unwaith eto fod pas ymlaen yn ystod y symudiad.

Biarritz yn hytrach a sgoriodd y cais nesaf wrth i Ngwenya sgorio’i hatric toc wedi awr o chwarae. Llwyddodd Yachvili unwaith eto wrth iddo ymestyn mantais ei dîm i 36-5, ac felly y gorffennodd hi.

Y Saracens felly sydd yn ennill grŵp 5 er i Treviso godi ofn arnynt yn yr hanner cyntaf yn yr Eidal heddiw. Ac mae’r fuddugoliaeth swmpus hon yn sicrhau’r ail safle a lle yng Nghwpan Amlin i Biarritz. Mae’r Gweilch ar y llaw arall yn dychwelyd o Wlad y Basg yn waglaw yn y trydydd safle.