Andy Dyer - Rheolwr Hapus
Lido Afan 2–0 Aberystwyth

Bydd Lido Afan yn teithio i Goedlan y Parc wythnos i nos Fawrth gyda dwy gôl o fantais yn rownd gyntaf Cwpan y Cynghrair ar ôl curo Aberystwyth yn y cymal cyntaf o flaen camerâu Sgorio ddydd Sadwrn. Roedd goliau Andy Hill a Mark Jones yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i dîm Andy Dyer yn Stadiwm Marstons.

Hanner Cyntaf

Bu rhaid i Chris Curtis yn y gôl i Lido fod ar flaenau’i draed wedi dim ond pum munud pan ergydiodd Sion James hanner foli lân o 20 llath ac ergydiodd Mark Jones ar draws ceg y gôl yn y pen arall bedwar munud yn ddiweddarach.

Ond fu dim rhaid aros yn hir am y gôl agoriadol wrth i Andy Hill sgorio o’r smotyn i Lido wedi 12 munud. Rhedodd Jones yn bwrpasol i flwch cosbi Aberystwyth cyn cael ei atal gan gefn Dave Swanick. Doedd yna ddim llawer ynddi ond pwyntiodd Richard Harrington at y smotyn a chododd Hill y gic i’r gornel uchaf.

Dyblwyd mantais Lido wedi 26 munud wrth i Mark Jones orffen symudiad gwych gan y tîm cartref. Cafwyd cyd chware da rhwng Jones ac Anthony Finselbach yng nghanol y cae cyn i bêl hir Daniel Thomas ddod o hyd i Carl Payne ar ochr dde’r cwrt cosbi, curodd yntau Aneurin Thomas yn rhwydd cyn chwarae’r bêl i Jones yn y canol a gorffennodd ef y symudiad. Gôl dda iawn i Lido, 2-0 hanner ffordd trwy’r hanner.

Lido oedd yn rheoli’r hanner cyntaf ac roedd rhedeg twyllodrus Leon Jeanne ar yr asgell chwith yn ddraenen gyson yn ystlys Lido. Ond cafodd yr ymwelwyr hanner cyfle i daro’n ôl cyn yr egwyl serch hynny. Chwaraeodd Andy Parkinson bêl dda i lwybr Geoff Kellaway yn y cwrt cosbi ond roedd ei ergyd ef yn wan ac yn syth at Curtis.

Aros yn 2-0 a wnaeth hi tan hanner amser felly gyda’r tîm cartref yn llawn haeddu eu mantais ar yr egwyl.

Ail Hanner

Dechreuodd Aberystwyth yr ail hanner yn well wrth iddynt fanteisio ar y gwynt cryf y tu ôl iddynt. Ond wedi dweud hynny, ychydig o gyfleoedd a greodd tîm Alan Morgan yn hanner cyntaf yr ail hanner. Yn wir, Lido ddaeth agosaf at sgorio pan ddaeth Finselbach o hyd i Payne yn y cwrt cosbi gyda phas wych ond methu a tharo’r targed a wnaeth y blaenwr.

Daeth Aber yn agos ychydig funudau yn ddiweddarach pan ergydiodd Lewis Codling yn galed ac yn gywir o 25 llath ond gwnaeth Curtis yn dda i arbed y cynnig.

Gorffennodd Aber y gêm yn gryf ac roeddynt yn haeddu gôl yn wobr am eu perfformiad yn yr ail hanner. A daeth cyfle euraidd am y gôl honno ym munud olaf y 90 pan gafodd Ricky Evans ei lorio yn y cwrt cosbi gan yr eilydd, Alex Rickett. Cododd Evans i gymryd y gic ond roedd hi’n ymdrech wael ac arbedodd Curtis yn dda i’w dde.

2-0 i Lido Afan ar ddiwedd y gêm felly a mynydd i’w ddringo i Aberystwyth yn yr ail gymal yng Nghoedlan y Parc mewn wythnos a hanner.

Ymateb

Ar ddiwedd y gêm roedd Andy Dyer yn hapus iawn â pherfformiad ei dîm, yn enwedig felly yn yr hanner cyntaf:

“Fe wnaeth y bois yn dda iawn, fe basion nhw’r bêl yn dda ar gae gwael. Fe gawson ni’r ddwy gôl gynnar ac fe roddodd hynny blatfform i ni amddiffyn wedyn yn yr ail hanner. Rydyn ni wedi bod yn gwneud hynny’n dda trwy’r tymor gartref a dyna wnaethon ni heddiw.”

Ond roedd rheolwr Lido Afan yn ymwybodol iawn mai dim ond hanner ffordd yw hi gyda’r ail gymal i ddod:

“Dy’ ni heb ennill dim byd eto achos mae Aberystwyth yn le anodd iawn i fynd iddo… Ond mae gennym ni ddwy gôl o fantais nawr ac fe fyddai’n well gen i fod yn ein sefyllfa ni na sefyllfa Aberystwyth ar hyn o bryd.”

Yn sicr, mae Aberystwyth yn y gêm o hyd ac mae eu his-reolwr, Ian Hughes, yn gwybod hynny hefyd:

“Mae’r gôl nesaf yn mynd i fod yn hynod o bwysig. Yn anffodus, chawsom ni mohonni efo’r gic o’r smotyn heddiw ond fe fydd yna gyfleoedd i ni adref.”