Gethin Jenkins - y pryder diweddara
Mae’r prop, Gethin Jenkins, wedi ychwanegu at broblemau Cymru bythefnos cyn y Chwe Gwlad.

Chwaraewr y Gleision yw’r diweddara’ o brif chwaraewyr Cymru i gael ei anafu – fe fu’n rhaid iddo adael y cae wedi 36 munud o’r ornest yn erbyn Racing Metro ddoe.

Ynghynt yn y penwythnos, roedd Dan Lydiate, blaenasgellwr y Dreigiau, a Rhys Priestland, maswr y Scarlets, wedi cael eu hanafu hefyd.

Roedd hi’n ymddangos bod Jenkins wedi cael anaf i’w ben-glin yn y fuddugoliaeth o 36-30 wrth i’r Gleision gyrraedd rownd wyth ola Cwpan Heineken.

Priestland a Lydiate

Dioddefodd Priestland anaf i’w ben-glin yn ystod buddugoliaeth 16-13 y Scarlets yn erbyn Castres yn Ffrainc.

Dim ond 16 munud a chwaraeodd Lydiate 16 munud i Ddreigiau Casnewydd-Gwent wrth iddyn nhw faeddu Cavalieri Prato ar Rodney Parade.

Mae’n debyg ei fod yn dioddef o anaf i’w ffêr, problem a orfododd iddo golli rhai o gemau Cymru yng Nghwpan y Byd y llynedd.

Gwlad Pwyl

Fe fydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn mynd a grŵp 35 dyn i Wlad Pwyl yr wythnos nesaf er mwyn paratoi ar gyfer eu gêm yn erbyn Iwerddon yn Nulyn bythefnos i heddiw.

Mae eisoes wedi colli’r blaenwyr Luke Charteris, Alun-Wyn Jones a Lloyd Burns oherwydd anafiadau.

Mae yna bryder hefyd am ganolwr y Gleision, Jamie Roberts, sydd wedi anafu ei ben-glin.

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, nad oedd yn gwybod pa mor ddifrifol oedd anaf Priestland eto.

“Bydd rhaid disgwyl i gael gweld,” meddai. “Y gobaith yw nad yw’n rhy ddifrifol.”