Dreigiau 45–16 Cavalieri Prato
Gorffennodd y Dreigiau eu hymgyrch yn y Cwpan Amlin am y tymor hwn ar nodyn uchel gyda buddugoliaeth swmpus yn erbyn Cavalieri Prato ar Rodney Parade heddiw. Roedd y rhanbarth o Gymru eisoes allan o’r gystadleuaeth ond cafodd y cefnogwyr cartref wledd wrth i’r Dreigiau sgorio saith cais yn erbyn yr Eidalwyr.
Daeth y cyntaf o’r rheiny i’r bachwr, Rhys Buckley, wedi dim ond pedwar munud. Ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl bedwar munud yn ddiweddarach gyda chic gosb o droed eu maswr, Riccardo Bocchino.
Ond roedd y gêm allan o afael yr Eidalwyr i bob pwrpas erbyn hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn dilyn dau gais arall i’r Dreigiau, y naill i Adam Hughes wedi 11 munud a’r llall i Aled Brew ddeg munud yn ddiweddarach.
Fe lwyddodd Bocchino gyda’i ail gic gosb wedi hynny ond ychwanegodd y Dreigiau ddau gais arall cyn yr egwyl. Tiriodd Andy Tuilagi wedi hanner awr a Jason Tovey ddau funud cyn yr egwyl. Llwyddodd Tovey gyda phum trosiad yn ystod y gêm hefyd.
Ymunodd canolwyr Prato yn y wledd o geisiau yn yr ail hanner wrth i Alberto Chiesa groesi wedi 44 munud cyn i Clemens Von Grumbkow ychwanegu ail ym munud olaf y gêm.
A byddai hynny wedi rhoi gwedd gymharol barchus ar y sgôr pe na bai’r Dreigiau wedi sgorio dau gais eu hunain yn y cyfamser. Sgoriodd Martyn Thomas wedi 67 munud a Lewis Robling wedi 74 munud wrth i’r Dreigiau sgorio saith cais yn erbyn dau’r ymwelwyr, 45-16 y sgôr terfynol.
Yr unig newyddion drwg i’r Dreigiau heddiw oedd gweld eu capten, Dan Lydiate, yn gorfod gadael y cae gydag anaf yn yr hanner cyntaf. Newyddion drwg nid yn unig i’r Dreigiau ond i Gymru hefyd gyda dim ond pythefnos cyn gêm gyntaf y Chwe Gwlad.
Mae’r Dreigiau yn gorffen yn drydydd yng ngrŵp 4 felly ond byddant braidd yn siomedig â hynny gan gofio iddynt ennill eu dwy gêm gyntaf yn y gystadleuaeth.