Stephen Jones - Cic gosb hwyr bwysig
Castres 13–16 Scarlets

Mae’r Scarlets wedi sicrhau eu lle yn chwarteri Cwpan Amlin ar ôl gorffen yn ail yng ngrŵp 1 Cwpan Heineken. Curodd y Scarlets Castres yn y Stade Pierre Antoine i neidio dros Northampton i’r ail safle wedi i’r tîm o Loegr ddioddef crasfa iawn gartref yn erbyn yn Munster.

Roedd ceisiau Matt Gilbert yn yr hanner cyntaf ac Aaron Shingler wedi’r egwyl yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r Scarlets mewn gêm glos yn Ffrainc. Yn y cyfamser, sgoriodd y Gwyddelod bum cais yn erbyn y Seintiau yn Franklin’s Gardens.

Hanner Cyntaf

Rhoddodd Rhys Priestland Fois y Sosban ar y blaen gyda chic gosb wedi deg munud o chwarae cyn i’r wythwr, Gilbert, sgorio’r cais agoriadol ddau funud yn ddiweddarach. Er i Priestland fethu’r trosiad roedd gan yr ymwelwyr fantais gynnar o wyth pwynt.

Ond roedd y fantais honno wedi ei chwtogi i ddau bwynt erbyn yr egwyl diolch i ddwy gic gosb gan Rory Kockott yn hwyr yn yr hanner. Llwyddodd y mewnwr gyda’i gyntaf wedi 34 munud ac yna’i ail bum munud yn ddiweddarach, 8-6 i’r Scarlets ar yr egwyl.

Ail Hanner

Efallai mai Steven Shingler sydd wedi bod yn cael sylw cefnogwyr rygbi yn ddiweddar wrth i’r Alban a Chymru ffraeo dros chwaraewr Gwyddelod Llundain. Ond mynodd ei frawd, Aaron, ychydig o’r sylw heno wrth sgorio’r ail gais hollbwysig yn y gêm hon. Croesodd y blaenasgellwr toc cyn yr awr i ymestyn mantais y Scarlets i saith pwynt gyda chwarter y gêm yn weddill.

Ond roedd y Ffrancwyr yn gyfartal wedi 71 munud yn dilyn cais yr eilydd o fachwr, Yannick Forestier, a throsiad y cefnwr, Romain Teulet.

13-13 gyda llai na deg munud yn weddill felly, sefyllfa a oedd yn galw am hen ben a phwy well na Stephen Jones. Llwyddodd y maswr gyda chic gosb ddau funud o’r diwedd i gipio’r fuddugoliaeth i’r rhanbarth o Gymru.