Shane Williams
Sgoriodd Shane Williams gais yn eiliadau olaf y gêm gan goroni ei yrfa yn Stadiwm y Mileniwm heddiw.

Yn anffodus gêm digon diflas oedd hi i Gymru wrth iddyn nhw golli 18-24 yn erbyn Awstralia.

Dyma oedd gêm olaf Shane Williams mewn crys Cymru ond er gwaethaf cais hwyr i’w harwr roedd yn gêm i’w anghofio i’r rhan fwyaf o’r cefnogwyr.

Fe aeth Cymru ar y blaen yn yr hanner cyntaf â dwy gic gosb gan Rhys Priestland, cyn i James O’Conner haneru’r fantais i 6-3 ar 40 munud.

Serch hynny roedd y ddau dîm yn ddigon swrth gan awgrymu fod hon yn un gêm ryngwladol yn ormod ar ôl diwedd Cwpan Rygbi’r Byd chwe wythnos yn ôl.

Roedd yr ail hanner yn gwbl wahanol i’r cyntaf, â sawl cais, ond yn anffodus i Gymru daeth y rhan fwyaf o’r rheini o du’r Awstraliaid.

Daeth y trobwynt ar 49 munud wrth i Leigh Halfpenny gydio yn un o chwaraewyr Awstralia oedd heb y bêl, a chael ei anfon i’r gell gosb am 10 munud.

Roedd yn ddeg munud hir wrth i Awstralia sgorio tri chais, y cyntaf drwy Will Genia a’r ail drwy Lachie Turner. Sgoriodd Berrick Barnes y trydydd ar ôl i Gymru golli’r bêl yng nghanol y cae. Ciciodd James O’Conner pob un o’r trosiadau i fynd a’i dîm 6-24 ar y blaen.

Tarodd Cymru’n ôl yn syth â chais gan Rhys Priestland wedi iddo benderfynu cicio am y gornel ar ôl ennill cic gosb, ond methodd â’r trosiad.

Doedd dim digon o amser i sicrhau buddugoliaeth, ond gorffennodd gyrfa Shane ar nodyn perffaith wrth iddo sgorio un cais olaf – caid rhif 58 – dros ei wlad.