Gary Speed
Roedd golygfeydd emosiynol y tu mewn a’r tu allan i stadiwm Leeds United heddiw wrth i filoedd o gefnogwyr dalu teyrnged arbennig i Gary Speed.
Y gêm heddiw yn erbyn Milwall oedd y cyntaf yn Elland Road ers marwolaeth Gary Speed y penwythnos diwethaf.
Y tu allan i’r prif eisteddle safodd miloedd o gefnogwyr ger cerflun ble mae cannoedd o grysau, sgarffiau a chreiriau eraill wedi eu pentyrru er mwyn cofio’r pêl-droediwr. Roedd nifer ohonyn nhw yn eu dagrau.
Roedd rhagor o emosiwn y tu mewn i’r stadiwm wrth i i’r timoedd sefyll yng nghanol y cae yn ystod un munud o gymeradwyaeth.
Gosodwyd plethdorchau ar y cae gan ei gyd-chwaraewyr Gordon Strachan, Gary McAllister a David Batty. Roedd gwraig weddw Gary Speed, Louise, wedi teithio yno ar gyfer y seremoni.
Roedd Gary Speed yn rhan bwysig o dîm Leeds United a enillodd yn y Bencampwriaeth cyn symud i Newcastle United.
Yn St James’s Park, Newcastle, roedd ddagrau a chymeradwyaeth er mwyn cofio’r chwaraewr cyn y chwiban gyntaf.
Bydd munud o gymeradwyaeth ym mhob gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr heddiw, a bydd cefnogwyr gêm Cymru yn erbyn Awstralia yn cynnal munud o dawelwch.