Rhys Priestland
Mae maswr Cymru, Rhys Priestland, wedi dweud fod yn rhaid maeddu un o fawrion Hemisffer y De os ydyn nhw’n mynd i gael eu hystyried yn dîm gwych.
Fe gyrhaeddodd Cymru rownd gynderfynol Cwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd ond colli oedd eu hanes nhw yn erbyn De Affrica a Seland Newydd.
Dywedodd Rhys Priestland fod angen iddyn nhw “symud ymlaen” a churo Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm heddiw.
Dim ond chwe wythnos yn ôl y maeddodd Awstralia’r Cymry 21-18 yn y gêm am y trydydd safle yn Eden Park.
Unwaith yn unig mae Cymru wedi maeddu un o’r mawrion, Awstralia, Seland Newydd neu Dde Affrica, yn eu 15 gêm ddiweddaraf.
“Mae’n bwysig eu curo nhw er mwyn profi i ni’n hunain ein bod ni’n ddigon da, ac mae gennym ni gyfle i wneud hynny ar ddydd Sadwrn,” meddai Priestland.
“Roedd colli yn erbyn Ffrainc ac yna Awstralia yn siomedig iawn i ni ac felly mae’n beth da fod gennym ni gêm arall heddiw.
“Rhaid i ni ail-gydio yn yr arfer o ennill ac adeiladu ar beth lwyddon ni i’w gyflawni yn Seland Newydd.”
Methodd Rhys Priestland y gemau yn erbyn Ffrainc ac Awstralia oherwydd anaf i’w ysgwydd.
“Roeddwn i’n gwybod yn syth ar ôl cael fy anafu ei fod yn un gwael,” meddai. “Roedd yn boenus iawn.
“Ond roeddwn i’n lwcus i gael chwarae yng Nghwpan Rygbi’r Byd o gwbl, o ystyried fod sawl chwaraewr o safon, dau ohonyn nhw’n Scarlets, wedi methu’r gystadleuaeth yn llwyr.
“Chwaraeais i bum gêm yn y bencampwriaeth oedd yn fwy nag oeddwn i wedi dychmygu y byddwn i’n cael ei chwarae felly alla’i ddim cwyno.”