Leinster 52–9 Gleision

Roedd hi’n noson hir iawn i’r Gleision yn yr RDS yn Nulyn nos Wener wrth iddynt gael crasfa go iawn gan Leinster. Roedd hi’n hanner cyntaf digon agos ond roedd yr ail hanner yn un trychinebus i’r rhanbarth o Gymru.

Hanner Cyntaf

Cyfnewidiodd maswr y Gleision, Ceri Sweeney a chanolwr Leinster, Fergus McFadden giciau cosb yn y pum munud cyntaf cyn i’r Gwyddelod ddechrau rheoli’r gêm.

Ac roedd ganddynt gais i’w ddangos am eu goruchafiaeth wedi naw munud, Isaac Boss yn ymestyn at y gwyngalch wedi i Isa Nacewa gael ei atal fodfeddi o’r llinell. Llwyddodd McFadden gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb bum munud yn ddiweddarach i ymestyn y fantais i ddeg pwynt.

Ond roedd y fantais honno wedi ei chwtogi i bedwar pwynt erbyn hanner amser yn dilyn dwy gic gosb lwyddiannus gan Sweeney. Gobaith i’r Gleision ar hanner amser felly ond dim ond un tîm a oedd ynddi wedi’r egwyl.

Ail Hanner

Llwyddodd McFadden gyda chic gosb yn fuan yn yr ail hanner cyn trosi cais y prop, Nathan White wedi 45 munud. Ychwanegodd gôl adlam wedi 52 munud er mwyn rhoi’r gêm allan o afael y Gleision, 26-9 gyda hanner awr ar ôl.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Gleision pan anfonwyd capten Leinster, Leo Cullen i’r gell gosb yn fuan wedyn ond methodd y tîm o Gaerdydd a manteisio. A phan anfonwyd Richie Rees i’r gell toc wedi’r awr dechreuodd pethau fynd o ddrwg i waeth i’r ymwelwyr.

Sgoriodd y Gwyddelod bedwar cais yn yr ugain munud olaf er mwyn codi cywilydd go iawn ar y Gleision. Daeth y cyntaf o’r rheiny i’r maswr, Ian Madigan wedi 63 munud.

Yna, sgoriodd yr asgellwr, Dave Kearney ddau gais mewn dau funud, y cyntaf wedi 68 munud yn sicrhau’r pwynt bonws i’r Gwyddelod a’r ail wedi 70 munud yn rhwbio’r halen yn y briw i’r Cymry. Ond roedd ychydig o halen ar ôl yn y pot wrth i’r eilydd, Leo Auva’a sgorio chweched cais y tîm cartref gyda symudiad olaf y gêm. 52-9 i Leinster ar y chwiban olaf a’r artaith drosodd i’r Gleision.

Mae’r Gleision yn aros yn bumed yn y RaboDirect Pro12 er gwaethaf y golled drom yn yr Iwerddon.