Mae rhanbarth rygbi’r Dreigiau’n galw am ymchwiliad i ymadawiad Cory Hill, fydd yn dychwelyd i’r Gleision y tymor nesaf.
Roedd adroddiadau neithiwr (nos Wener, Ebrill 3) fod chwaraewr ail reng Cymru am adael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor, ar ôl saith tymor ar gae Rodney Parade.
Wrth ymateb, dywed y Dreigiau eu bod nhw’n “diolch i Cory am ei gyfraniad yn ei rolau fel capten a chwaraewr” ond eu bod nhw “wedi gofyn i’r awdurdodau perthnasol edrych ar amgylchiadau’r symudiad”.
Dywed Dean Ryan, Cyfarwyddwr Rygbi’r rhanbarth, ei fod e “wedi siomi” ond ei fod yn “dymuno’n dda i Cory ar gyfer y dyfodol”.
Chwaraeodd e 110 o weithiau i’r Dreigiau, gan sgorio 13 o geisiau, ac roedd e’n gapten yn ystod tymor 2017-18 gn arwain y tîm 30 o weithiau.
Gyrfa
Fe ddechreuodd ei yrfa gyda thimau ieuenctid Clwb Rygbi Pontypridd, a chwarae dros y tîm cyntaf am y tro cyntaf yn 2010 a sgorio dau gais.
Graddiodd e o Academi’r Gleision gan chwarae deg o weithiau i’r rhanbarth.
Cafodd ei enwi’n gapten ar dîm dan 20 Cymru ar gyfer Cwpan Ieuenctid y Byd yn Ne Affria yn 2012, cyn ymuno â’r Dreigiau ar ôl cyfnod byr yn chwarae i Moseley yn Lloegr.
Daeth ei gap cyntaf i’r tîm cenedlaethol yn erbyn Awstralia ym mis Tachwedd 2016 ac fe gafodd ei enwi yn y garfan ar gyfer y daith haf i Tonga a Samoa yn 2017 cyn cael ei alw fel eilydd i garfan y Llewod yn Seland Newydd.
Cafodd ei enwi’n gyd-gapten ar gyfer taith Cymru i’r Ariannin a’r Unol Daleithiau, lle chwaraeon nhw yn erbyn De Affrica yn 2018.
Ar ôl sgorio’r cais buddugol yn erbyn Lloegr y llynedd, cafodd ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd ond wnaeth e ddim chwarae oherwydd anaf.