Bydd ras geffylau y ‘Grand National rithwir’ yn cael ei chynnal am 5.15 heno (nos Sadwrn, Ebrill 4), gyda’r holl elw’n mynd at gefnogi gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd.

Mae disgwyl miliynau o wylwyr ar gyfer y ‘ras’ ar ITV, wrth i gwmnïau betio addo y bydd yr holl arian yn mynd at elusennau sy’n cefnogi’r Gwasanaeth Iechyd wrth iddyn nhw fynd i’r afael â’r coronafeirws.

Bydd y dechnoleg ddiweddaraf ac algorithmau’n cael eu defnyddio i ail-greu’r ras yn Aintree yn Lerpwl, ac mae arbenigwyr yn dweud bod y dechnoleg yn gallu darogan canlyniadau rasys ymlaen llaw yn fanwl gywir.

Fe fydd 10,000 o docynnau ar gyfer diwrnod cyntaf wythnos y Grand National y flwyddyn nesaf yn cael eu rhoi i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd.

Yn sgil yr holl gemau ym myd y campau sydd wedi’u gohirio, mae pryderon ar hyn o bryd na fydd rhai cwmnïau betio’n goroesi’r pandemig.