Rhys Priestland
Mae adroddiadau o Seland Newydd yn awgrymu na fydd Rhys Priestland yn wynebu Ffrainc ddydd Sadwrn.

Mae’r maswr ifanc yn brwydro yn erbyn anaf i’w ysgwydd er mwyn ceisio bod yn barod ar gyfer yr ornest gyn-derfynol yn erbyn Ffrainc.

Yn y cyfamser, mae’r dyn a allai gymryd ei le yn dweud mai’r frwydr yn ardal y dacl fydd yn ennill a cholli’r gêm.

Fe fydd Cymru’n llwyddo os cawn nhw bêl gyflym o ryciau a sgarmesoedd, meddai Stephen Jones, a allai ennill ei 103fed cap os na fydd Priestland yn iach.

Ei waith ef wedyn fyddai rhoi cyfle i’r canolwr, Jamie Roberts, y chwaraewr y mae Ffrainc yn ei ofni fwya’.

‘Cracer o gêm’

Ond fe rybuddiodd Stephen Jones hefyd y bydd Ffrainc yn meddwl yr un peth â Chymru ac yn teimlo’n dda ar ôl curo Lloegr.

“Fe fydd gan y Ffrancod gefnogaeth frwd yn y gêm ond fe fydd hynny gan Gymru hefyd. Fe fydd hynny gan Gymru hefyd. Fe fydd hynny’n golygu ei bod yn gracer o gêm rhwng dau dîm gwych.

“Dyma rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd a does dim llawer o gêmau’n fwy na hynny,” meddai ar wefan yr Undeb Rygbi. “Yn y bôn, mae’n gêm anferth ac yn bwysig iawn i rygbi yng Nghymru oherwydd y gall gryfhau ein safle ar fap rygbi’r byd.”