Gareth Bale
Bwlgaria 0 – 1 Cymru
Roedd un gôl gan Gareth Bale yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gymru yn Sofia heno.
Digon fflat oedd yr awyrgylch gyda thorf fach iawn yn y stadiwm – y tua 400 o Gymry’n fwy na’r dorf cartref.
Dechreuodd y Cymry’n dda, ac roedden nhw wedi creu tri chyfle da yn yr wyth munud cyntaf.
Er y dechrau addawol, digon siomedig oedd eu perfformiad gweddill yr hanner cyntaf.
Ceisiodd yr ymwelwyr reoli’r meddiant a chadw at eu gêm basio ddiweddar, ond roedd hynny’n anodd oherwydd safon y cae – doedd wyneb maes y Vasil Levski ddim yn cymharu’n ffafriol ag un Stadiwm y Liberty!
Bonws cyn yr hanner
O’r hanner cyfleoedd a grëwyd, Bwlgaria gafodd y gorau ond cafodd Wayne Hennessey yn y gôl i Gymru mo’i brofi o gwbl.
Bu’n rhaid i Speed ad-drefnu yn hwyr yn yr hanner cyntaf wrth i Darcy Blake adael y maes gydag anaf – daeth Adam Matthews i’r cae fel eilydd a symudodd Chris Gunter i ganol yr amddiffyn at Ashley Williams.
Byddai Gary Speed wedi bod yn ddigon hapus petai’r gêm yn ddi-sgôr ar yr hanner, ond cafodd fodd i fyw wrth i Gymru sgorio munud cyn yr hanner.
Prif fygythiad Cymru, Gareth Bale sgoriodd y gôl, yn torri ar draws y blwch cosbi o’r dde cyn i’w ergyd wyro i’r rhwyd oddi-ar yr amddiffynnwr Ivanov.
Dechrau’r ail hanner â phwrpas
Doedd fawr o ddiddordeb gan y tîm cartref ar ddechrau’r ail hanner a Chymru ddechreuodd â phwrpas.
Daeth Bale mor agos ag y gallai fod wedi 58 munud – Ramsey’n cyfuno’n wych ag asgellwr Spurs ac yntau’n ergydio ar y foli ond y bêl yn taro’r traws ac yn ôl i ddwylo balch y golwr.
Creodd Bellamy a Bale hanner cyfleoedd wedi hynny, ond yn aml iawn doedd y bêl dyngedfennol ddim yn ddigon cywir.
Bu ond y dim i Ramsey sgorio yn dilyn rhediad da wedi 82 munud, ond hedfan dros y traws wnaeth ei ergyd.
Ddwy funud yn ddiweddarach daeth cyfle gorau’r gêm i’r tîm cartref wrth i Bozinov ruthro’n glir o’r amddiffyn, ond aeth ei ergyd heibio’r postyn agosaf.
Roedd Cymru’n chwarae braidd yn llac erbyn hyn, a hyder y tîm cartref yn codi. Ond, wrth i’r pedwerydd swyddog ddynodi 3 munud o amser wedi’i ychwanegu, roedd yr ymwelwyr wedi setlo am y fuddugoliaeth o un gôl.
Perfformiad siomedig o’i gymharu â hwnnw yn erbyn Y Swistir nos Wener felly, ond canlyniad digon boddhaol i dîm Gary Speed wrth i’w dîm brofi bod modd iddynt fynd oddi-cartref i le anodd a sichrau canlyniad.
Tîm Cymru: Hennessey, Gunter, Ashley Williams, Blake, Taylor, Allen, Ramsey, Crofts, Bale, Bellamy, Morison.
Eilyddion: Myhill, Matthews, Nyatanga, Vaughan, Edwards, Robson-Kanu, Church.