Mae’n ymddangos y bydd clwb rygbi XIII Cymreig newydd a ffurfiwyd o weddillion y Celtic Crusaders yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Un y tymor nesaf.

Mae disgwyl cadarnhad gan y Gynghrair yr wythnos hon fod y tîm newydd, ‘Crusaders Gogledd Cymru’, wedi cael lle yn nhrydedd adran rygbi’r gynghrair unwaith bydd cynllun busnes y clwb wedi ei gymeradwyo.

Cam cadarnhaol

Cafodd y clwb newydd ei ffurfio gan gonsortiwm o fusnesau a chefnogwyr dan arweiniad Jamie Thomas.

“Dwi wrth fy modd fod yr RFL wedi awgrymu’n gryf y bydd Crusaders Gogledd Cymru yn cael camu ar y cae yn 2012,” meddai Thomas.

“Yn amlwg mae’n rhaid i’r cynllun busnes gael ei gymeradwyo gyntaf, ond mae’r broses honno’n parhau ac rydan ni’n gweld y newyddion fel cam cadarnhaol.”

“Rydan ni’n disgwyl cadarnhad mewn wythnos i ddeng niwrnod ac wedyn bydd modd i ni fynd ati i benodi hyfforddwyr a dechrau adeiladu tîm.”

Cefndir

Daeth y Celtic Crusaders i ben ym mis Gorffennaf, pryd penderfynodd y clwb i atal eu cais am drwydded newydd oherwydd gofid am y sefyllfa ariannol.

Y bwriad oedd ailffurfio dan berchnogaeth newydd, ond gwrthodwyd eu cais i ymuno â’r Bencampwriaeth ym mis Medi.

Bydd y Crusaders yn ymuno â chlwb Cymreig arall, Scorpions De Cymru, yn y gynghrair.

Fel y Celtic Crusaders, mae’r tîm newydd yn bwriadu chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm y Cae Ras – cartref clwb pêl-droed Wrecsam.