Rhys Priestland
Mae amheuon mawr heddiw a fydd y maswr Rhys Priestland yn ddigon iach ar gyfer gêm rygbi Cymru yn erbyn y Ffrancwyr ddydd Sadwrn.

Derbyniodd y maswr, sydd wedi serennu yn ystod Cwpan y Byd, anaf i’w ysgwydd yn ystod y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn diwethaf, a bu’n rhaid iddo adael y cae tair munud cyn y chwiban olaf.

Doedd yr anaf i’w ysgwydd chwith ddim yn cael ei ystyried yn un rhy ddifrifol wedi iddo ddod o’r cae ddydd Sadwrn – ond gyda llai na phedwar diwrnod i fynd cyn gêm y rownd gynderfynnol, a dim ond deuddydd cyn y bydd Warren Gatland yn gorfod dewis ei dîm, mae ei ysgwydd yn dal heb wella.

Cafodd Rhys Priestland ei esgusodi o’r ymarfer heddiw, ynghyd â’r capten Sam Warburton, y canolwr Jamie Roberts, a chwaraewr yr ail-reng, Luke Chartertis, ond mae disgwyl i’r tri olaf fod yn holliach erbyn y gêm ddydd Sadwrn.

Bydd Warren Gatland yn cyhoeddi ei dîm ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc ddydd Iau.