Aaron Ramsey
Mae Aaron Ramsey am weld Cymru’n gorffen y grŵp mewn steil gyda buddugoliaeth yn erbyn Bwlgaria heno.
Bydd y capten ifanc yn arwain ei dîm i’r maes yn Sofia yn llawn hyder wedi buddugoliaeth wych yn erbyn Y Swistir nos Wener.
Hon fydd gêm olaf Cymru yn eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Ewro 2012 – er nad oes modd i Gymru gyrraedd y rowndiau terfynol, gall buddugoliaeth eu codi i’r trydydd safle yn y grŵp, yn ogystal â chodi hyder dynion Gary Speed wrth baratoi at yr ymgyrch nesaf.
Pethau’n clicio
Ar ôl dechrau siomedig i’r ymgyrch – dan arweiniad John Toshack, ac yna Brian Flynn, mae llawer o’r farn bod Gary Speed wedi llwyddo i droi’r gornel a bod dyfodol disglair i’r tîm cenedlaethol.
Mae buddugoliaethau yn erbyn Montenegro fis yn ôl a’r Swistir nos Wener wedi gwella golwg y grŵp i Gymru ac mae’r capten ifanc o’r farn bod newid mawr wedi bod.
“Mae’n anodd credu’r sefyllfa ry’n ni ynddi o ystyried lle’r oedden ni rai gemau nôl,” meddai Ramsey.
“Mae newid mawr wedi bod ac ry’n ni’n profi i bawb, gan gynnwys ni’n hunain, beth ry’n ni’n gallu gwneud.”
“Gall gymryd amser i bethau ddod at ei gilydd mewn tîm, ond mae pethau wedi dechrau clicio” ychwanegodd y capten ifanc.
Cynnal momentwm
Cred chwaraewr canol cae Arsenal fod buddugoliaeth yn erbyn Bwlgaria heno’n bwysig o ran cynnal momentwm i’r tîm.
“Mae perfformiad nos Wener wedi codi’n hyder ni ar gyfer y gêm heno ac ry’n ni’n bwriadu mynd amdani” meddai Ramsey.
“Byddai’n (buddugoliaeth) ganlyniad da iawn i ni – byddai’n hwb i ni ac yn cynnal momentwm.”
“Byddwn ni’n mynd allan i fwynhau’n hunain. Mae’r tîm â’r hyder a’r gallu i fynd allan a chael canlyniad a gobeithio fyddwn ni’n gwneud hynny i orffen y grŵp mewn steil.”
Bydd modd gwrando ar sylwebaeth Gymraeg o’r gêm yn fyw ar Radio Cymru heno – y gic gyntaf am 7:05pm. Bydd modd ei gwylio ar Sky Sports 2.