Bydd modd i gefnogwyr tîm rygbi Cymru wylio’r gêm rownd gyn-derfynol yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi eu bod am agor giatiau’r stadiwm er mwyn dangos y gêm yn fyw ar sgriniau mawrion.

Bydd modd i unrhyw un wylio’r gêm yn y stadiwm cenedlaethol yn rhad ac am ddim, ar yr amod eu bod yn gwisgo coch i gefnogi’r tîm.

Rhanbarthau’n croesawu cefnogwyr Cymru

Mae’r rhanbarthau Cymreig hefyd wedi penderfynu ymuno â’r hwyl hefyd, wrth i’r Scarlets a’r Dreigiau wahodd cefnogwyr i’w meysydd i wylio’r gêm yn fyw.

Yn ogystal â dangos y gêm yn ‘Y Clwb’, mae’r Scarlets wedi trefnu i’r ddau gyn-chwaraewr, Dafydd Jones a Phil Bennett, ddadansoddi’r perfformiad yn ystod hanner amser, ac ar ôl y chwiban olaf.

Bydd modd i gefnogwyr yn y Dwyrain heidio i Rodney Parade i wylio’r gêm hefyd.

Mae Dreigiau Gwent wedi cyhoeddi y byddan nhw’n agor y bar yn arbennig am 8:30 fore Sadwrn i ddangos y gêm cyn i’r rhanbarth herio Caerfaddon yn nhlws yr LV y prynhawn hwnnw.

Tro cyntaf i rygbi

Hon fydd y trydydd tro i’r stadiwm cenedlaethol agor ei giatiau i ddangos gemau allweddol i Gymru ar sgriniau mawr – yr unig syndod yw mai gemau pêl-droed sydd wedi eu dangos yno’r ddwy waith flaenorol.

Yn Nhachwedd 2003, cafodd y gêm ail-gyfle ragbrofol ar gyfer Ewro 2004 rhwng Cymru a Rwsia ei dangos yn fyw yno, tra bod y gêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Cymru a Lloegr wedi ei dangos yno yn Hydref 2004 hefyd.

“Roedden ni am roi cyfle i bawb ymuno ar gyfer y gêm bwysig iawn yma a dangos i’r chwaraewyr a’r tîm hyfforddi bod y wlad i gyd yn eu cefnogi,” meddai Pennaeth Marchnata a Gwerthiant Undeb Rygbi Cymru, Craig Maxwell.

“Mae hon yn gêm hanesyddol ac ry’n ni am i’r chwaraewyr wybod fod eu perfformiad anhygoel yn Seland Newydd wedi cydio yn nychymyg pawb nôl adref..”

“Bydd miloedd o gefnogwyr yn canu a bloeddio yn Auckland ddydd Sadwrn, ond ry’n ni eisiau cymaint â phosib i ymuno â nhw yn Stadiwm y Mileniwm.”

“Mewn blynyddoedd i ddod bydd pobol wastad yn cofio lle’r oedden nhw pan oedd Cymru’n herio Ffrainc yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd – lle well na Stadiwm y Mileniwm.”