Gary Speed
Yn dilyn buddugoliaeth a pherfformiad da iawn yn erbyn Y Swistir yn Stadiwm Liberty nos Wener, Owain Schiavone sy’n awgrymu beth fydd cefnogwyr Cymru’n gobeithio ei weld gan ddynion Gary Speed ym Mwlgaria heno
Canol cae Cymru am y ddeng mlynedd nesaf
Dwi wedi sôn o’r blaen am yr opsiynau sydd gan Gymru o ran chwaraewyr canol cae erbyn hyn. Gyda Joe Ledley, Jack Collison ac Andy King wedi’u hanafu nos Wener a David Vaughan ond yn ddigon iach i ddechrau ar y fainc, o’r diwedd daeth cyfle i Joe Allen ddechrau ei gêm gyntaf i Gymru.
Gydag Allen a Ramsey’n cyfuno’n greadigol, ac Andrew Crofts yn gwneud y gwaith caib a rhaw yn gwarchod yr amddiffyn, cafwyd awgrym o bartneriaeth ganol cael Cymru am y ddeng mlynedd nesaf.
Mae Allen yn 21 a Ramsey dal ond yn 20. Mae’r ddau’n chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair eleni, ac yn chwarae pêl-droed y ffordd iawn. Mae Crofts yn hŷn wrth gwrs, yn 27 erbyn hyn ond ychwanegwch Jack Collison, sydd ond yn 22 oed, ac mae gan Gymru driawd addawol iawn yng nghanol y cae am y ddeng mlynedd nesaf.
Cofiwch hefyd bod Ramsey ac Allen yn Gymry Cymraeg – mae’n rhaid bod hynny’n fantais gan fod y ddau i’w gweld yn deall ei gilydd i’r dim. Byddwn ni’n gobeithio gweld perfformiad yr un mor hunanfeddiannol gan y ddau ym Mwlgaria heno.
Perfformiad da arall gan Morison
Ers i John Hartson ymddeol o bêl-droed rhyngwladol, mae Cymru wedi’i chael hi’n anodd i lenwi esgidiau’r cawr yn y llinell flaen.
Mae Freddie Eastwood, Ched Evans, Sam Vokes a Simon Church wedi cael cyfle yn y safle ond heb argyhoeddi. Er ei fod yn cynnig rhywbeth gwahanol, doedd Morison heb argyhoeddi chwaith…nes nos Wener.
Er mai Gareth Bale oedd seren y gêm, a bod nifer o chwaraewyr eraill wedi dal y llygad, doedd yr un perfformiad yn fwy trawiadol nag un Morison. Fe weithiodd yr ymosodwr cydnerth yn galed yn y gemau yn erbyn Montenegro a Lloegr ym mis Medi, ond doedd o ddim yn edrych fel ateb hirdymor i Speed – ddim digon siarp, a’i gyffyrddiad ddim digon da i’r lefel rhyngwladol.
Ers hynny, mae wedi cael rhediad da yn nhîm Norwich, ac yn erbyn Y Swistir roedd yn chwaraewr gwahanol. Mae’n amlwg ei fod wedi codi ger wrth chwarae’n rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair, a gobeithio bydd ei berfformiad heno’n un cystal.
Mwy o antur gan Gunter
Digon tawel oedd hanner cyntaf Chris Gunter ar y Liberty, ond fe gafodd drawiad mawr yn ystod chwarter awr gyntaf yr ail.
Wrth iddo gyfuno’n dda â Gareth Bale ar yr asgell dde, cafwyd tacl erchyll ar gefnwr Nottingham Forrest gan Ziegler – tacl a welodd gerdyn coch haeddiannol.
Doedd Gunter yn ddim gwaeth o’r dacl diolch byth, a munudau’n ddiweddarach roedd yn rhuthro am bas Crofts yng nghwrt cosbi’r gwrthwynebwyr. Roedd ei gyffyrddiad cyntaf yn dda a doedd dim dewis gan yr amddiffynnwr ond ei faglu, gan arwain at gic o’r smotyn a gôl gyntaf i Gymru.
Er ei addewid cynnar, mae Gunter wedi bod yn rhy geidwadol yn ei chwarae i Gymru ers peth amser bellach, gan ofni mentro’n ormodol i hanner y gwrthwynebwyr. Roedd yn dda ei weld yn cyfrannu mwy i’r ymosod nos Wener, ac yn cael dylanwad mawr ar y gêm o ganlyniad. Mwy o hyn plîs Chris.
Bellamy i chwarae dwy gêm mewn wythnos.
Mewn adroddiadau yn y wasg heddiw mae Gary Speed yn dweud ei fod am weld Craig Bellamy yn dal ati i chwarae i Gymru nes Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil.
Oherwydd hanes anafiadau Bellamy dros y blynyddoedd mae hynny wedi ymddangos yn annhebygol iawn, ac yntau’n 32 oed bellach.
Tra’n chwarae i Gaerdydd llynedd, doedd dim modd i Bellamy chwarae dwy gêm mewn wythnos, ond mae’r chwaraewr wedi cael bywyd newydd wrth ymuno â Lerpwl Kenny Dalglish, ac ar hyn o bryd, does dim awgrym na fydd yn chwarae heno.
Er cystal chwaraewr yw Aaron Ramsey, mae Speed yn gwybod yn iawn mai cyflymder Gareth Bale a Craig Bellamy ar yr esgyll ydy bygythiad ymosodol mawr Cymru a bydd yn awyddus i Bellamy chwarae i’w wlad mor hir â phosib.
Buddugoliaeth
Tydi Cymru heb sicrhau dwy fuddugoliaeth gefn-wrth-gefn ers chwe blynedd bellach. Digwyddodd hynny ddiwethaf yn ystod ymgyrch gyntaf John Toshack fel rheolwr gyda buddugoliaethau yn erbyn Gogledd Iwerddon ac Azerbaijan.
Cafwyd y perfformiadau gefn-wrth-gefn fis yn ôl, ond er gwaetha’r perfformiad colli wnaethon ni’n erbyn y Saeson. Bydd Speed ar dân i sicrhau buddugoliaeth heno fydd yn hwb enfawr i’r chwaraewyr a’r cefnogwyr.
Mae canlyniad heno’n bwysig yng nghyd-destun y grŵp. Fe alla’i buddugoliaeth olygu bod Cymru’n gorffen yn drydydd, petai Montenegro’n curo’r Swistir yn Basel. Ar y llaw arall, byddai colli’n golygu bod Cymru’n gorffen ar waelod y grŵp.
Nos Wener, curodd Cymru dîm sy’n safle 18 yn rhestr dethol FIFA ar hyn o bryd – ac ni ddylid diystyru safon tîm Y Swistir. Mae Bwlgaria’n is ar y rhestr, yn safle 55 tra bod Cymru’n safle 90. Os ydw i wedi deall yn iawn, fe alla’i buddugoliaeth heno godi Cymru i hanner cant uchaf y byd, lle ddylen ni fod.
Mae Speed hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd gêm heno wrth baratoi at yr ymgyrch nesaf lle bydd ei dîm yn wynebu timau Dwyreiniol Macedonia, Serbia a Croatia yn eu grŵp rhagbrofol.
Yn fwy na dim, byddai buddugoliaeth yn cynnal hyder y chwaraewyr ifanc sy’n asgwrn cefn i garfan Gary Speed, gan hefyd gadarnhau fod y rheolwr yn mynd o’i chwmpas hi’r ffordd iawn.