Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi’r tîm fydd yn wynebu Pau yn y gêm gynderfynol Cwpan Her Ewrop yn y brifddinas yfory.
Gethin Jenkins fydd yn capteinio gyda Kristian Dacey a Anton Peikrishvili yn ymuno ag ef yn y rheng flaen. Owen Lane yw’r unig newid i’r olwyr, ac mi fydd e’n dechrau ar y cae yn lle Blaine Scully.
Mae’r Gleision wedi ennill naw o’u deg gêm ddiwethaf yng nghystadleuaeth Cwpan Her Ewrop.
Ac ar drothwy’r gêm gynderfynol ym Mharc yr Arfau ddydd Sadwrn (Ebrill 21), mae’r hyfforddwr Danny Wilson wedi galw am berfformiad “corfforol”.
“Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cael dechrau da,” meddai. “Bydd yna awyrgylch mawr a llawer o nerfusrwydd. Bydd rhaid i ni fod yn gorfforol iawn yn gynnar yn y gêm, er mwyn gosod y dôn.
“Bydd y frwydr gorfforol yn chwarae rôl bwysig wrth benderfynu pwy fydd yn ennill.”
Y Tîm
Gareth Anscombe; Alex Cuthbert, Rey Lee-Lo, Willis Halaholo, Owen Lane; Jarrod Evans, Tomos Williams; Gethin Jenkins (capten), Kristian Dacey, Anton Peikrishvili, Seb Davies, Josh Turnbull, Josh Navidi, Ellis Jenkins, Nick Williams
Ar y fainc
Kirby Myhill, Rhys Gill, Scott Andrews, Damian Welch, Olly Robinson, Lloyd Williams, Garyn Smith, Matthew Morgan
Bydd y gêm yn dechrau am 1 yr hwyr, ac mi fydd modd gwrando arno’n fyw ar BBC Radio Cymru.