Does gan Renato Sanches “ddim gobaith” o fynd i Gwpan y Byd gyda Phortiwgal, yn ôl ei gydwladwr a’i reolwr yn Abertawe, Carlos Carvalhal.
Roedd y rheolwr yn trafod dyfodol un o chwaraewyr ifainc disgleiria’r gêm sydd ar fenthyg o Bayern Munich ond sydd wedi’i chael hi’n anodd cael ei le yn nhîm yr Elyrch oherwydd anafiadau a pherfformiadau gwael.
Bydd yr Elyrch yn teithio i Stadiwm Etihad ddydd Sul i herio Man City, sydd newydd gael eu coroni’n bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe dreuliodd y chwaraewr 20 oed gyfnod ym Munich yn ddiweddar er mwyn cael triniaeth ar gyfer anaf i linyn y gâr sydd wedi ei gadw fe allan o’r gêm ers diwedd mis Ionawr.
Dywedodd Carlos Carvalhal: “Dw i’n meddwl fod ganddo fe ddim gobaith o fynd i Gwpan y Byd.
“Dw i wedi dweud wrtho fe am anwybyddu’r clebran. Mae gan Bortiwgal lawer o chwaraewyr da, ac mae e’n rhan o’r grŵp yma, ond hyd yn oed os yw e’n chwarae’n dda yn y pum gêm olaf, fe fydd yn anodd iawn iddo fe.
“All e ddim chwarae yn y gemau hyn oherwydd mae ei gyflwr corfforol yn wael iawn. Roedd e’n siomedig o glywed hynny, ond dyna bêl-droed i chi. Roedd e wedi’i anafu.”
Ychwanegodd y gallai targedu Cwpan y Byd achosi anaf arall i’r chwaraewr.
Difetha parti Man City
Wrth i Man City ddathlu dod yn bencampwyr yr Uwch Gynghrair, fe fydd yr Elyrch yn gobeithio difetha’r parti ddydd Sul.
Er nad oes disgwyl iddyn nhw ennill yr un pwynt, fe fydd unrhyw ganlyniad ond am golled yn gam arall tuag at ddiogelwch y tymor nesaf.
Ychwanegodd Carlos Carvalhal: “Ry’n ni’n falch iawn o gael cynnig gosgordd iddyn nhw i’r cae oherwydd maen nhw’n bencampwyr haeddiannol y tymor hwn.
“Nhw yw’r tîm gorau yn Lloegr ac mae mynd i’w stadiwm nhw’n beth anodd.
“Ond rhaid i ni wneud popeth allwn ni i gyflawni rhywbeth. Os gwnawn ni hynny, gadewch i ni weld beth sy’n digwydd.”