Prydie - negesuon codi calon
Mae asgellwr ifanc Cymru wedi diolch i’w gefnogwyr am negeseuon i godi ei galon ar ôl iddo glywed ei fod allan o’r gêm am weddill y tymor.

Fe allai golli peth o ddechrau’r tymor nesa’ hefyd ar ôl rhwygo un o’r gewynnau yn eu ben-glin yng ngêm y Gweilch yn erbyn Glasgow.

Roedd wedi cael siom gyda’r anaf, meddai mewn neges trydar ac mae’r rhanbarth wedi cadarnhau y gallai golli rhwng chwech ac wyth mis.

Ar ôl i’r ben-glin setlo wedi’r anaf, fe fydd yn cael triniaeth ai ail-greu’r gewyn – mae disgwyl i hynny ddigwydd yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Fe fydd mewnwr y Gweilch, Jamie Nutbrown, hefyd yn colli nifer o gemau oherwydd niwed i’w ysgwydd, ond mae disgwyl iddo fod yn ôl cyn diwedd y tymor.