Martyn Williams - yn falch
Mae blaenasgellwr Cymru, Martyn Williams, wedi dweud ei fod wrth ei fodd yn cael tymor arall gyda Gleision Caerdydd.
Roedd wedi rhoi ei fryd ar orffen ei yrfa gyda rhanbarth y brifddinas ac mae wedi diolch i’r tîm rheoli am ganiatáu iddo wneud hynny.
“Dw i wedi bod yma ers 1999,” meddai, “a do’n i ddim eisiau mynd i unman arall.”
Fe fu dyfalu mawr am ddyfodol Williams, wrth i’r rhanbarth oedi cyn cynnig cytundeb blwyddyn iddo.
Mae yntau’n dweud ei fod yn falch o allu helpu’r rhanbarth i gyrraedd y pumed safle yng Nghynghrair Magners ar ôl iddo gael ei ollwng o garfan Cymru.
“R’yn ni’n pwyso o ddifri am le yn y pump ucha’,” meddai. “Ac mae’n dda gweld chwaraewyr ifanc ŷd dod yn eu blaenau.”