Shane Williams - beth am Gymru?
Yn ôl y disgwyl, mae’r asgellwr, Shane Williams, wedi cadarnhau y bydd yn arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gweilch.
Mae’r chwaraewr 34 oed wedi cadarnhau hynny mewn colofn bapur newydd heddiw ond roedd eisoes wedi awgrymu hynny ar Radio Cymru dros y Sul.
Er bod clybiau o Ffrainc ar ei ôl, mae’n ymddangos y bydd yn arwyddo cytundeb dwy flynedd arall i aros yn Stadiwm Liberty.
Roedd wedi gwneud yn glir ei fod yn awyddus i aros yng Nghymru gan fod hynny’n gyfleus i’w deulu.
Er hynny, does dim penderfyniad terfynol eto am ei yrfa ryngwladol. Ac yntau wedi dweud y byddai’n ymddeol wedi Cwpan y Byd, mae wedi rhoi awgrym y bydd yn fodlon ailfeddwl.