Warren Gatland (blaen0 a Sean Edwards, sydd wedi cael ei ddisgyblu
Ffrainc 28 Cymru 9

Roedd Cymru wedi “methu â pherfformio” meddai’r prif hyfforddwr ar ôl eu curfa waetha’ ers pum mlynedd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Roedden nhw wedi colli’r bêl yn rhy aml yn hanner Ffrainc ac wedi ildio gormod o giciau cosb gwirion, meddai Warren Gatland, ar ôl y gweir ym Mharis.

Ond fe wrthododd roi sylw am absenoldeb yr hyfforddwr amddiffyn, Sean Edwards, ar ôl i hwnnw gael ei ddisgyblu wythnos yn ôl.

Mae’n ymddangos ei fod wedi bod mewn gwrthdaro gydag un arall o’r tîm cefnogi ac nad oedd wedi cymryd rhan ym mharatoadau Cymru at y gêm.

Gyda Lloegr wedi cael eu chwalu 24-8 gan Iwerddon, roedd angen i Gymru ennill o 27 pwynt i gipio’r Bencampwriaeth ond, yn ôl Gatland, roedd pwysau’r disgwyl yn ormod a dyna oedd “yr un peth mwya’ siomedig”.

Yn hytrach nag ennill y teitl, fe gwympodd Cymru i’r pedwerydd lle yn y Bencampwriaeth, y tu ôl i Loegr, Ffrainc ac Iwerddon.

Y gêm … a Hook dan y lach

Fe gafodd y maswr, James Hook, gêm i’w hanghofio, er gwaetha’ cicio holl bwyntiau Cymru – fe wnaeth gamgymeriad i achosi cais ac fe gafodd Ffrainc gais arall pan oedd oddi ar y cae yn y gell gosb.

Cymru oedd wedi dechrau orau, gan reoli’r meddiant yn y chwarter cynta’ a dod yn agos at gais trwy Leigh Halfpenny. Ond dim ond 3-3 oedd hi, trwy giciau cosb gan Hook a Parra.

Yn union cyn yr egwyl, fe ddaeth y smonach mawr cynta’ wrth i Gymru fethu â delio gyda chic uchel a’r blaenwr Naillet yn sgorio’r cynta’ o’i ddau gais.

Yr ail hanner

Fe ddaeth yr ail yn fuan ar ôl yr egwyl wrth i gic gan Hook gael ei tharo i lawr. Roedd y maswr wedi cael un gic gosb yn y cyfamser ac fe giciodd ei drydydd yn fuan wedyn ond, gyda Parra yn cael cic gosb arall i Ffrainc hefyd, roedd hi’n 21-6 i’r Ffrancod a gobeithion Cymru ar ben.

Doedd Hook ddim ar y cae pan ddaeth cais ola’ Ffrainc trwy le Clerc ac, yn fuan wedyn, fe ddaeth Stephen Jones i’r cae yn ei le gyda Dwayne Peel yn disodli Mike Phillips yn fewnwr.

Yn ôl y sylwebyddion, fe ddangosodd Gymru fwy o siâp a chyflymder wedyn ond roedd hi’n llawer rhy hwyr.