Fabio Borini - dyn y gêm heddiw
Llwyddodd Abertawe i sicrhau buddugoliaeth rwydd yn erbyn Nottingham Forest y prynhawn yma wrth i Fabio Borini sgorio dwy gôl yn ei gêm gyntaf i’r Elyrch.
Hon oedd y tro cyntaf i Abertawe ennill mewn pedair gêm, ac roedd hon yn gêm dyngedfennol yn erbyn un o’u prif gystadleuwyr yn y ras am ddyrchafiad i’r uwch gynghrair.
Fe gyrhaeddodd ergydiwr Chelsea ar fenthyg i Abertawe’r wythnos yma ar gytundeb tan ddiwedd y tymor, ac roedd yr Eidalwr ifanc yn llawn haeddu ei deitl fel dyn y gêm heddiw. Sgoriodd ei gôl gyntaf yn fuan ar ôl 17fed gôl Scott Sinclair dros Abertawe’r tymor yma ar yr 21fed munud.
Er i’r ymwelwyr sgorio ar hanner amser, ni fu’n hir cyn i Borini gadarnhau goruchafiaeth glir Abertawe wrth sgorio ei ail gôl ychydig cyn awr wedi dechrau’r gêm.
Ond er i Abertawe reoli trwy gydol y gêm, fe fu ond i dim i Forest unioni’r sgôr ar ôl gôl yn ystod amser anafiadau gan Paul Anderson a phenio un arall yn erbyn y postyn.