Fe wnaeth gôl hwyr gan Steve Morison amddifadu gobeithion Caerdydd am ddyrchafiad awtomatig wrth i Millwall sicrhau pwynt yn eu herbyn y prynhawn yma.
Ar ôl treulio rhan helaeth o ddechrau’r tymor yn un o’r ddau uchaf yn y gynghrair, mae’r Adar Glas wedi llithro’n ddiweddar ac maen nhw bellach bedwar pwynt y tu ôl i Norwich, sydd yn yr ail safle.
Aeth Caerdydd ar y blaen i ddechrau gyda gôl gan Chris Burke, ond trawodd y Llewod yn ôl gan achub y blaen ar yr ymwelwyr gyda gôl yr un gan Liam Trotter a Kevin Lisbie.
Llwyddodd Peter Whittingham i unioni’r sgôr dros Gaerdydd wedyn, cyn i Burke rwydo ei ail gôl.
Doedd y ddrama ddim drosodd, er hynny, gan i Morison dod â’r sgôr yn 3-3 ar yr 87fed munud.
Ar ôl llwyddo i gipio un pwynt yn unig yn eu tair gêm ddiwethaf, roedd Caerdydd wedi cychwyn y gêm yn benderfynol. Ond er iddyn nhw chwarae’n dda ar brydiau doedd eu perfformiad cyffredinol ddim yn ddigon cyson.