sha
Shane - am ddal i fynd?
Mae Shane Williams wedi rhoi awgrym na fydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol wedi’r cyfan.

Fe ddywedodd wrth Radio Cymru ei fod eisiau dal ati i chwarae i Gymru am flynyddoedd i ddod – er ei fod wedi cyhoeddi ynghynt eleni y byddai’n ymddeol o’r tîm ar ôl Cwpan y Byd yn yr hydref.

Heddiw fe ddywedodd nad oedd “dim yn bendant” ond y byddai rhaid iddo fod yn synhwyrol ac yntau’n 35 oed y flwyddyn nesa’.

Roedd hyfforddwr olwyr Cymru, Rob Howley, eisoes wedi dweud eu bod nhw’n ceisio perswadio’r asgellwr bach i ddal ati.

Fe fydd chwaraewr y Gweilch yn colli’r gêm yn erbyn Ffrainc fory oherwydd anaf ac roedd llawer wedi meddwl ei fod wedi chwarae ei gêm ola’ ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bellach, mae’n ymddangos nad yw hynny’n wir … o reidrwydd.