James Hook
Mae maswr Cymru, James Hook wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at gêm Ffrainc er mwyn dangos ei allu i rai o’r chwaraewyr y bydd yn ymuno â nhw y tymor nesa’.
Fe fydd Hook yn gadael y Gweilch i ymuno gyda Perpignan yn ardal Gatalaneg de Ffrainc dros yr haf ar ôl arwyddo cytundeb tair blynedd.
Fe fydd tri aelod o dîm Perpignan yng ngharfan Ffrainc ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru ym Mharis nos Sadwrn, sef David Marty, Nicolas Mas a Guilhem Guirado.
“Dw i ddim wedi cyfarfod a David Marty eto, ond rwy’n gobeithio cael sgwrs gydag e ar ôl y gêm,” meddai James Hook. “Fe fydd ychydig yn od chwarae yn erbyn fy nghyd- chwaraewyr newydd.
“Ond dw i wastad wedi mwynhau chwarae yn Ffrainc, gyda Chymru a’r Gweilch. Heb law am Stadiwm y Mileniwm – y Stade de France yw fy hoff stadiwm.”
Cynnal momentwm
Mae James Hook yn awyddus i Gymru i gynnal momentwm rhwng nawr a Chwpan y Byd, ond mae’n gwybod bod her anodd yn eu disgwyl yn erbyn Ffrainc.
“Mae Ffrainc yn dîm anodd i’w dadansoddi. D’ych chi byth yn gwybod pan dîm sy’n mynd i droi lan. Ond y cyfan allwn ni ei wneud yw canolbwyntio arnon ni ein hunain.”
Ar ôl cyfres o ddeg gêm heb fuddugoliaeth, mae Cymru wedi ennill tair yn olynol, hyd yn oed os nac ydyn nhw wedi argyhoeddi’n llwyr.
James Hook sydd wedi chwarae yn safle’r maswr ym mhob un o’r gêmau hynny ar ôl ennill y frwydr hir rhyngddo ef a Stephen Jones am y crys rhif 10.
“R’yn ni am gynnal pethau hyd at Gwpan y Byd,” meddai Hook. “Mae ffordd bell i fynd cyn y gystadleuaeth yn Seland Newydd, ond mae pob gêm nawr yn gyfle i ddangos ein doniau o flaen yr hyfforddwyr.
“D’yn ni ddim wedi cael y cyfle i ddangos beth mae’r cefnwyr yn gallu ei wneud, ac r’yn ni am wneud yn iawn am hynny nos Sadwrn.”